Adeiladu Gweithleoedd Cynhwysol: Ein Hymrwymiad ar Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl

Ar 3 Rhagfyr rydym ni’n falch o ymuno â digwydd Eich Llais, Eich Senedd Senedd Cymru i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl. Mae’r thema fyd-eang eleni, “Meithrin cymdeithasau anabledd-gynhwysol i annog cynnydd cymdeithasol”, yn atseinio’n gryf gyda’n cenhadaeth i greu gweithleoedd niwrogynhwysol, lle mae pobl niwrowahanol yn gallu ffynnu.

Yn y Senedd, mae ein tîm wedi arddangos ein gwaith i Aelodau o’r Senedd, gan ganolbwyntio ar gyflogaeth a’r camau a gymerir i arfogi cyflogwyr a gweithwyr gyda’r wybodaeth a’r adnoddau a’r strategaethau ymarferol sydd eu hangen i lywio cymhlethdodau’r gweithlu.

Mae cyflogaeth yn dal yn un o’r rhwystrau mwyaf i bobl niwrowahanol. Mae’r heriau’n aml iawn yn cychwyn gyda’r broses recriwtio, lle gall prosesau traddodiadol rhoi ymgeiswyr niwrowahanol dan anfantais. Mae hefyd yn gallu bod yn ddryslyd a gorlethu rhywun heb addasiadau wedi’u teilwra, ac efallai na fydd strwythur y gweithlu na phrosesau cyfathrebu yn ystyried dulliau prosesu amrywiol. Mae gwahaniaethau mewn swyddogaethau gweithredol, fel rheoli amser, blaenoriaethu tasgau ac ymdopi gyda newid, yn gallu achosi mwy o gymhlethdodau. Nid yw’r rhwystrau hyn yn ymwneud â gallu; maen nhw’n ymwneud â’r amgylchedd a’r diwylliant sy’n methu â chydnabod ac addasu i wahaniaeth.

Dyna pam ein bod ni’n gweithio gyda grŵp cynghori i ddiweddaru ein hadnoddau ar gyflogaeth, gan sicrhau eu bod yn adlewyrchu arfer gorau a phrofiadau bywyd. Ein nod yw helpu cyflogwyr i greu gweithleoedd niwrogadarnhaol a niwrogynhwysol – llefydd lle mae amrywiaeth yn cael ei werthfawrogi, addasiadau yn rhagweithiol a gweithwyr niwrowahanol yn gallu cyfrannu eu cryfderau heb rwystrau diangen.

Fel rhan o’r ymrwymiad hwn rydym ni’n cynnal cyfres o weminarau a sesiynau hyfforddi am ddim. Mae’r rhain yn cynnwys sesiynau ar addasiadau rhesymol yn y gweithle, diwylliant adborth a pherfformiad, a hyfforddiant i reolwyr yn y flwyddyn newydd. Byddwn hefyd yn rhannu recordiadau o’n sesiynau Niwrowahaniaeth yn y Gweithle ar gyfer Ymarferwyr AD poblogaidd. Bydd y dyddiadau a’r dolenni i gofrestru ar ein gwefan gyda hyn – felly cadwch eich llygaid ar agor amdanyn nhw.

Ar gyfer cyflogwyr sy’n edrych ar wella eu dealltwriaeth, mae ein hadnoddau e-ddysgu yn darparu canllawiau ymarferol ar niwrowahaniaeth a chynhwysiant. Mae’r adnoddau hyn wedi’u dylunio i helpu sefydliadau i fynd gam ymhellach tuag at wir newid diwylliannol – oherwydd dydi cynhwysiant ddim yn ymwneud a pholisïau’n unig, mae’n ymwneud â phobl.

Mae Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl yn ein hatgoffa ni fod angen partneriaeth i wneud cynnydd. Gyda’n gilydd, gallwn oresgyn rhwystrau, herio tybiaethau a chreu gweithleoedd lle mae medrau niwrowahanol yn cael eu dathlu yn ogystal â’u croesawu.

Cadwch lygad ar agor a dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol i gael mwy o wybodaeth am ein hadnoddau newydd a’n gweminarau – ac ymunwch â ni i greu dyfodol lle mae gwahaniaeth yn cael ei ystyried yn gryfder.

Sesiynau Cymuned Ymarfer sydd i Ddod

Dolenni Defnyddiol