Adroddiad Blynyddol Atodol y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol ar gyfer 2019/20

Adroddiad Blynyddol Atodol y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol ar gyfer 2019/20 Mae Adroddiad Blynyddol Atodol y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol ar gyfer 2019/2020 yn dathlu faint o waith a gwblhawyd drwy Gymru rhwng Ebrill 2019 a Mawrth 2020. Mae’r adroddiad yn atodol i Adroddiad Blynyddol 2018  – 2019. Eleni, mae’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol wedi parhau i weithio gyda phobl awtistig, eu teuluoedd, eu partneriaid, a budd-ddeiliaid ledled Cymru gyda’r nod o wella bywydau pobl awtistig. Os hoffech glywed yn uniongyrchol gan fudd-ddeiliaid allweddol y Tîm, cliciwch ar y clipiau sain sydd ar gael drwy’r adroddiad, ble mae amrywiaeth o bobl awtistig a gweithwyr proffesiynol yn rhannu eu profiadau o weithio gyda’r Tîm drwy gydol y flwyddyn. Darperir trawsgrifiad ar gyfer pob clip sain. Ariennir y Tîm gan Lywodraeth Cymru ac mae’n cael ei gynnal gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, gan weithio’n agos gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae adroddiad eleni’n dathlu’r amrywiaeth o raglenni gwaith mae’r Tîm Awtistig Cenedlaethol yn rhan ohonynt sy’n ceisio codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o awtistiaeth, ac i gefnogi pobl sydd ag awtistiaeth a’u teuluoedd a’u gofalwyr ac mae ynddo ragair gan Eluned Morgan, AS, sydd wedi ei phenodi yn ddiweddar fel Y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg. Ymysg prif bwyntiau’r adroddiad mae:
  • Ymateb y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol i Covid-19. Gan gynnwys sefydlu Tîm Awtistiaeth Rhithwir Cymru Gyfan er mwyn creu adnoddau sy’n benodol ar gyfer pobl awtistig a’u teuluoedd, mewn ymateb i’r cyfarwyddyd amrywiol gan Lywodraeth Cymru.
  • Lansio’r Ffilm Beth yw Awtistiaeth a grëwyd ar y cyd â phobl awtistig, ac a luniwyd i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o awtistiaeth.
  • Dyma’r flwyddyn gyntaf i’r Tîm allu casglu blwyddyn gyfan o’r fframwaith data newydd ar gyfer y 7 Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig yng Nghymru, gyda chymorth sefydliad partner CLlLC, Data Cymru. Gweler Atodiad A i ddarllen yr adroddiad llawn.
  • Mae rhaglenni ymwybyddiaeth Dysgu gydag Awtistiaeth ar gyfer plant yn parhau i fod yn llwyddiant; mae cyfanswm o 71 o leoliadau Blynyddoedd Cynnar wedi derbyn eu gwobrau, roedd 26 o’r rhain yn ystod 2019/2020. Hefyd, mae cyfanswm o fwy na 60,000 o blant ar draws ysgolion cynradd ac uwchradd wedi cwblhau’r rhaglen. Mae’r rhaglenni nawr ar gael ar Hwb – llwyfan digidol Llywodraeth Cymru ar gyfer dysgwyr ac athrawon.
  • Yn dilyn Cynhadledd Genedlaethol gyntaf Awtistiaeth Cymru 2019, cynhyrchodd y Tîm Adroddiad Gwerthuso, sy’n amlygu llwyddiant y Gynhadledd a’r adborth arbennig o gadarnhaol a dderbyniwyd gan bawb a fynychodd. Er enghraifft, roedd 92% yn cytuno bod y gynhadledd wedi bod yn fuddiol i’w lles awtistig eu hunain neu i’w dealltwriaeth o les awtistig.
  • Eleni mae’r crynodeb mwyaf o astudiaethau achos ar gael a gasglwyd gan y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol. Cymrwch eich amser i ddarllen drwy bob un. Os yw’n well gennych edrych ar rywbeth mwy gweledol, gwyliwch y ffilm Dod i Adnabod Gerraint, wedi ei gyd-gynhyrchu gan Gerraint Jones Griffiths, Llysgennad Arweiniol y prosiect Engage to Change.
  Gan fwrw golwg nôl dros flwyddyn brysur a llwyddiannus arall i’r Tîm, dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg: “Rydym yn cydnabod bod Covid-19 wedi bod yn arbennig o heriol i bobl awtistig, eu teuluoedd a’u gofalwyr. Mae’r gwaith ar y cyd sydd wedi’i wneud gan y tîm wedi darparu cymorth hanfodol, amserol a phriodol yn ystod y pandemig. “Mae’r adroddiad hwn yn adlewyrchiad clir o ehangder cyflawniadau’r tîm yn ystod y flwyddyn. Mae gwerthoedd cadarn o gydweithio a chynnwys yn amlwg drwyddo draw, a bydd y dull hwn o weithio’n hanfodol wrth ymgysylltu yn y dyfodol a chyflwyno’r Cod Ymarfer ar Ddarparu Gwasanaethau Awtistiaeth sydd ar y gorwel.”   Gan fwrw golwg nôl dros flwyddyn brysur a llwyddiannus arall i’r Tîm, dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, Llefarydd WLGA dros Iechyd Meddwl a Llesiant: “Hoffwn ddiolch i bob un o’r bobl awtistig, y rhieni/gofalwyr, y gweithwyr proffesiynol a’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol am y gwaith caled amlwg sydd wedi mynd rhagddo drwy gydol y flwyddyn. Mae’n wych gweld toreth ac ansawdd y cydweithio sydd wedi’i gynnwys yn yr Adroddiad Blynyddol Atodol hwn ar gyfer 2019/20. “Mae gwaith Arweinwyr Awtistiaeth awdurdodau lleol a’r Gwasanaethau Awtistiaeth Integredig wedi’i ymgorffori yn y casgliad sylweddol o astudiaethau achos. Rwy’ wedi mwynhau’n arbennig gwylio’r fideos o sesiynau Tang Soo Do Blaenau’r Cymoedd yn Sir Fynwy, sef ysgol martial arts i blant awtistig, a gwersi nofio cyfeillgar i bobl awtistig gan Halo Leisure ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae’n bwysig bod pob plentyn yn cael y cyfle i ddysgu sgiliau newydd a datblygu ei lesiant corfforol a meddyliol. “Mae’r adroddiad hwn yn darparu cyfle i’r Tîm fyfyrio, ynghyd â phartneriaid a rhanddeiliaid, ar y gwaith a gyflawnwyd ar draws Cymru i wella bywydau pobl awtistig.”   Mae Adroddiad Blynyddol Atodol y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol ar gyfer 2019/20 ar gael yma. Datganiad i’r Wasg Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) ar gael i’w weld yma.