Roeddem yn gyffrous i gymryd rhan yn y Sioe Iechyd Meddwl a Lles 2025, a gynhaliwyd yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 23 Mai. Roedd y digwyddiad ysbrydoledig hwn yn dod a sefydliadau, gweithwyr proffesiynol ac eiriolwyr ynghyd i drafod a hyrwyddo dulliau arloesol ar gyfer iechyd meddwl a lles.
Uchafbwynt sylweddol y dydd oedd cwrdd â Sarah Murphy AoS, Gweinidog Iechyd Meddwl a Lles. Fe rannom y gwaith effeithiol mae ein tîm yn ei gyflawni i hyrwyddo dealltwriaeth a derbyniad o ran niwrowahaniaeth, yn ogystal ag arferion niwrogynhwysol. Roedd ymgysylltiad y Gweinidog yn dangos gwerth creu systemau ac amgylcheddau sy’n dathlu cryfderau a hunaniaeth niwrowahanol wrth fynd i’r afael â’r rhwystrau.
Roedd ein tîm wrth eu boddau’n cysylltu gyda’r mynychwyr, rhannu ein gweledigaeth, a chyfnewid syniadau er mwyn gwella’r canolbwynt ar niwrowahaniaeth o fewn cyd-destun iechyd meddwl ehangach. I bawb a ymwelodd â’n stondin: diolch i chi am eich amser a diddordeb, roedd yn bleser cwrdd â chi oll.
Mae’r Sioe Iechyd Meddwl a Lles yn parhau i fod yn llwyfan hanfodol ar gyfer hybu cynnydd tuag at arferion iechyd meddwl cynhwysol a niwrogadarnhaol.

