Beth sy’n Newydd? – Medi 2026

Croeso i Beth sy’n Newydd?

Helo, a chroeso i rifyn cyntaf Beth sy’n Newydd? – ein diweddariad chwarterol newydd sbon sy’n dod â rhywfaint o ddatblygiadau diweddaraf ein rhaglenni ynghyd. P’un a ydych chi’n darllen hwn fel newyddlen neu’n gweld y diweddariad ar ein gwefan, gobeithio y bydd yn eich helpu i ddarganfod gwybodaeth ddefnyddiol, rhannu gwersi gyda phobl eraill a theimlo’n rhan o’r gwaith cynyddol i gefnogi Cymru mwy niwrogynhwysol.

Bydd pob rhifyn o Beth sy’n Newydd? yn cynnwys detholiad o uchafbwyntiau, gydag adnoddau newydd, digwyddiadau, cyfleoedd dysgu, gwaith ymgysylltu a datblygiadau rhaglenni ehangach. Mae’n gyfle i edrych ar bethau sydd wedi’u lansio’n ddiweddar, darganfod gwybodaeth ddefnyddiol a gweld sut mae ein gwaith ehangach yn datblygu ledled Cymru.

Yn y rhifyn hwn

Yn y rhifyn cyntaf, rydym yn edrych yn ôl ar rywfaint o’r uchafbwyntiau dros y flwyddyn hyd yma a rhannu beth sy’n dod nesaf. Gallwch ddarllen am Niwrogynhwysiant: Mae o Bwys!, fideos dwyieithog newydd, gwaith ar y Gymraeg a diwylliant, yr adnoddau cyflogaeth diweddaraf, cyfleoedd dysgu, digwyddiadau ledled Cymru ac ein cyfres bodlediadau newydd sbon sy’n lansio yn yr hydref.

Defnyddiwch y dolenni isod i neidio’n syth i’r diweddariadau sydd o ddiddordeb i chi, neu ddarllen y rhifyn llawn i weld sut mae ein gwaith yn datblygu ledled Cymru.

Niwrogynhwysiant: Mae o Bwys!

Ym mis Mawrth, roeddem ni’n falch o gynnal Niwrogynhwysiant: Mae o Bwys!, sef cyfres o ddigwyddiadau ar-lein byw a gynhaliwyd dros ddau ddiwrnod yn ystod Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth. Roedd y gyfres yn ystyried beth yw niwrogynhwysiant yn ymarferol a pham mae’n bwysig i bobl, cymunedau, gwasanaethau a gweithleoedd ar hyd a lled Cymru.

Roedd y sesiynau’n dwyn lleisiau niwrowahanol, profiad bywyd a syniadau ymarferol o bob cwr o Gymru ynghyd, gan gynnwys cyfraniadau gwerthfawr gan siaradwyr Cymraeg. Fe wnaeth y cyfranwyr rannu enghreifftiau o arfer da ac edrych ar themâu fel dulliau niwrogadarnhaol, y Gymraeg a diwylliant, gwasanaethau cynhwysol a chefnogi pobl niwrowahanol mewn sefyllfaoedd bob dydd. Roedd y gyfres yn annog myfyrio, dysgu a sgwrsio gan amlygu pwysigrwydd gwrando ar bobl niwrowahanol a gwerthfawrogi gwahanol ffyrdd o feddwl, cyfathrebu a phrofi’r byd.

Mae recordiadau ac adnoddau cysylltiedig ar gael ar wefan Niwrowahaniaeth Cymru, i roi cyfle i chi edrych eto ar y sesiynau, rhannu’r gwersi a pharhau â sgyrsiau am niwrogynhwysiant yn eich cymunedau, eich gwasanaethau a’ch gweithleoedd eich hunain. Byddwn yn parhau i adeiladu ar y gwaith hwn trwy adnoddau a chyfleoedd dysgu yn y dyfodol.

Fideos newydd: niwroamrywiaeth, niwrowahaniaeth ac ymarfer niwrogadarnhaol

Yn rhan o Niwrogynhwysiant: Mae o Bwys!, fe wnaethom ni edrych ar syniadau pwysig am niwrowahaniaeth, niwrogynhwysiant ac ymarfer niwrogadarnhaol. I gefnogi’r gwersi hyn, fe wnaethom lansio ein fideo newydd, Beth ydym yn ei olygu wrth niwrogadarnhaol?, yn ystod y digwyddiadau byw.

Mae’r fideo’n egluro cysyniad ymarfer niwrogadarnhaol mewn modd syml, hygyrch, i’ch helpu chi i ddeall pam mae iaith, agweddau a dulliau’n bwysig wrth gefnogi pobl niwrowahanol. Mae’n fan cychwyn defnyddiol os ydych chi eisiau meddwl yn fwy gofalus ynghylch sut i greu amgylcheddau lle mae pobl niwrowahanol yn teimlo eu bod yn cael eu cydnabod, eu parchu a’u cynnwys.

Mae’n adeiladu ar ein fideo gynharach, Beth ydym yn ei olygu gan niwroamrywiaeth a niwrowahaniaeth?, sy’n helpu i egluro camsyniadau cyffredin am y termau hyn. Gyda’i gilydd, mae’r fideos yn meithrin dealltwriaeth gyffredin o iaith sy’n cael ei defnyddio’n aml mewn sgyrsiau am niwrogynhwysiant, ond heb gael ei hegluro’n glir bob amser.

Cafodd y ddwy fideo eu cyd-gynhyrchu â grŵp ymgynghorol ac maent ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

Y Gymraeg, diwylliant a’r Eisteddfod Genedlaethol

Y Tîm Niwrowahaniaeth Cenedlaethol yn cymryd rhan yn nigwyddiad arbennig CLlLC yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Mae mynediad at y Gymraeg wedi parhau i fod yn rhan allweddol o’n gwaith eleni, o’r cyfraniadau Cymraeg sy’n greiddiol i Niwrogynhwysiant: Mae o Bwys! i fideos dwyieithog sy’n helpu i egluro terminoleg ynghlwm â niwroamrywiaeth, niwrowahaniaeth ac ymarfer niwrogadarnhaol.

I ni, mae darpariaeth Gymraeg yn rhan hanfodol o niwrogynhwysiant ystyrlon. Mae’n golygu datblygu adnoddau, terminoleg ac offerynnau sy’n cefnogi pobl niwrowahanol, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol ar hyd a lled Cymru i gael gwybodaeth yn yr iaith sy’n bwysig iddyn nhw.

Mae’r ymrwymiad hwn wedi’i adlewyrchu mewn gwaith ymarferol ar draws y rhaglen, gan gynnwys ffilmiau ac adnoddau Cymraeg, datblygu terminoleg, offerynnau wedi’u cyfieithu, cyfleoedd dysgu dwyieithog a chyfieithu’r modiwlau e-ddysgu i Feddygon Teulu gan Tourettes Action UK. Fe wnaethom ni hefyd drefnu gweminar cyflogaeth Gymraeg, i helpu gweithwyr proffesiynol i edrych ar ymarferion gweithle niwrogynhwysol trwy gyfrwng y Gymraeg.

Roeddem yn falch iawn o gymryd rhan yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni fel rhan o ddigwyddiad arbennig gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn dathlu’r Gymraeg a 30 mlynedd ers sefydlu CLlLC. Roedd ein cyflwyniad yn rhannu sut mae’r Tîm Niwrowahaniaeth Cenedlaethol yn hyrwyddo’r Gymraeg ar draws ein gwaith ac yn amlygu sut mae modd sefydlu mynediad ystyrlon trwy gyfrwng y Gymraeg ar draws gwaith ar niwrogynhwysiant.

Adnoddau cyflogaeth wedi’u diweddaru

Wrth adeiladu ar y ffocws ehangach ar fynediad trwy gyfrwng y Gymraeg ac ymarfer niwrogynhwysol, rydym wedi adnewyddu a gwella ein hadran Gyflogaeth i helpu cyflogwyr, rheolwyr, timau AD, cydweithwyr a phobl niwrowahanol i gymryd camau ymarferol tuag at weithleoedd lle mae pobl niwrowahanol yn gallu teimlo bod pobl yn eu deall a’u cefnogi a’u bod yn gallu ffynnu.

Mae’r adnoddau wedi’u diweddaru’n cynnig canllawiau ymarferol ar ddeall niwrowahaniaeth yn y gweithle, gwneud addasiadau rhesymol, dylunio gwybodaeth gynhwysol, cefnogi cyfarfodydd a chyfathrebu a chreu awyrgylch mewn gweithleoedd lle gall pobl niwrowahanol deimlo eu bod yn cael eu cydnabod a’u parchu a’u bod yn gallu cyfrannu mewn ffyrdd sy’n gweithio iddyn nhw.

P’un a ydych chi’n gyflogwr sy’n meddwl sut i wneud recriwtio’n fwy cynhwysol, yn rheolwr sy’n cynllunio addasiadau rhesymol, yn gydweithiwr sydd eisiau cyfathrebu’n fwy clir, neu’n berson niwrowahanol sy’n chwilio am wybodaeth i gefnogi sgyrsiau yn y gwaith, mae’r adran Gyflogaeth yn dod â ffyrdd ymarferol o gychwyn arni ynghyd mewn un lle.

Mae ein hadnoddau ar gael yn ddwyieithog, gan gynnwys gweminar Cymuned Ymarfer Vicky Powner (Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl Llywodraeth Cymru): Addasiadau Rhesymol i’r Gweithle, sydd wedi helpu cyflogwyr a gweithwyr proffesiynol i ystyried sut beth allai ymarfer gweithle niwrogynhwysol fod mewn sefyllfaoedd bob dydd.

Cyflwyno ein Sesiynau Mewnwelediad newydd

Mae ein Sesiynau Mewnwelediad newydd yn cynnig ffordd newydd i chi edrych ar bynciau pwysig ynghlwm â niwrowahaniaeth, clywed gwahanol safbwyntiau a chasglu syniadau ymarferol y gallwch eu defnyddio yn eich bywydau eich hunain – yn broffesiynol a phersonol.

Mae’r sesiynau hyn ar agor i bawb ac maent wedi eu cynllunio ar gyfer pobl sy’n awyddus i feithrin dealltwriaeth a chael gafael ar wybodaeth fuddiol a pherthnasol. Mae pob sesiwn yn rhoi lle i glywed gan bobl sydd â phrofiad bywyd, gwybodaeth broffesiynol a dealltwriaeth arbenigol, sy’n eich helpu chi i feddwl sut bethau fyddai dulliau niwrogynhwysol mewn sefyllfaoedd bob dydd.

Mae’r sesiynau wedi’u bwriadu i fod yn ymarferol a hygyrch ac ysgogi’r meddwl. Maent yn rhoi cyfle i chi edrych ar bynciau’n fwy manwl, myfyrio ar brofiadau go iawn a chasglu syniadau sy’n gallu cefnogi sgyrsiau, penderfyniadau ac ymarfer mwy cynhwysol.

Fe wnaethom lansio’r Sesiynau Mewnwelediad ym mis Mehefin gyda sesiynau ar ADHD a Deiet gyda Paola Falcoski a Deall a Chefnogi Pobl Ifanc Niwrowahanol LHDTC+ yn eu Harddegau gydag Ian Timbrell o More Than Flags and Rainbows, gan dynnu sylw at feysydd pwysig o ran profiad, hunaniaeth a chefnogi. Mae mwy o ddyddiadau i ddod yn fuan, gyda sesiynau yn y dyfodol yn parhau i edrych ar bynciau sydd o bwys i bobl niwrowahanol, teuluoedd, cymunedau a gweithwyr proffesiynol ar hyd a lled Cymru.

P’un a ydych chi’n gwylio’n ôl i weld sesiwn a golloch chi, yn chwilio am adnodd i gefnogi trafodaeth tîm, neu’n edrych ar fater i wneud rhywfaint o fyfyrio personol, mae ein Sesiynau Cymuned Ymarfer a’n Sesiynau Cyngor Rhithiol i Rieni a Gofalwyr ar gael i’w gwylio yn rhan o’n llyfrgell recordiadau ehangach. Mae’r recordiadau’n cynnig gwybodaeth ymarferol a gallwch ddychwelyd atynt ar adeg sy’n gweddu i chi.

Bydd y Sesiynau Mewnwelediad ar frig yr un dudalen, gyda recordiadau’r Sesiynau Cymuned Ymarfer a Chyngor Rhithiol i Rieni a Gofalwyr ar gael oddi tanynt, i’w gwneud yn haws i chi weld yr adnoddau dysgu mewn un lle.

Yn dod yn fuan: ein cyfres bodlediadau newydd

Cyffrous iawn yw paratoi i lansio Podlediad Niwrowahaniaeth Cymru yn yr hydref – ffordd newydd o rannu sgyrsiau ystyriol, profiad bywyd a gwersi ymarferol o bob cwr o’r maes niwrowahaniaeth. Ar ôl ei lansio, bydd yr amserlen yn cynnwys un rhifyn Cymraeg ac un rhifyn Saesneg bob mis.

Bydd y gyfres bodlediadau newydd sbon yn dod â phobl niwrowahanol, teuluoedd, gweithwyr proffesiynol, ymarferwyr, cefnogwyr a phobl eraill sy’n chwilfrydig ynglŷn â niwrogynhwysiant ynghyd. Trwy drafod yn onest a myfyrio ar y cyd, rydym ni’n gobeithio y bydd yn helpu mwy o bobl i deimlo cysylltiad â chymuned niwrogynhwysol sy’n tyfu ledled Cymru.

Mae’r gyfres wedi’i chreu drwy gynllunio gydag ein grŵp ymgynghorol o bobl niwrowahanol a gweithwyr proffesiynol, i’n helpu i ddatblygu themâu a chwestiynau sy’n teimlo’n berthnasol, yn barchus ac wedi’u gwreiddio mewn profiad go iawn. Rydym wedi bod yn brysur yn recordio sgyrsiau gydag ystod eang o westeion a chyfranwyr, ac rydym yn edrych ymlaen at rannu’r rhain gyda chi’n fuan.

Boed gennych ddiddordeb mewn profiad bywyd, dysgu proffesiynol, safbwyntiau teuluol neu ffyrdd ymarferol o ymdrin â niwrogynhwysiant, gobeithiwn y bydd y podlediad yn cynnig rhywbeth y gallwch wrando arno, meddwl amdano a’i rannu gydag eraill. Mae niwrowahaniaeth yn fater i bawb, a gall pob sgwrs helpu i feithrin dealltwriaeth, cynhwysiant a chymuned ledled Cymru.

Byddwn yn rhannu manylion yn fuan i egluro ble i wrando a thanysgrifio. Cadwch olwg ar ein gwefan ac ar y cyfryngau cymdeithasol i weld y diweddaraf am y lansiad ac i’n helpu ni i ledaenu’r gair wrth i ni baratoi i rannu’r sgyrsiau.

Ar grwydr ledled Cymru

Drwy gydol y flwyddyn, rydym ni wedi bod ar grwydr mewn sgyrsiau, gweithdai, cynadleddau cenedlaethol, sioeau, ffeiriau a digwyddiadau cymunedol o amgylch Cymru.

Mae bod yn weledol drwy’r cyfleoedd hyn yn rhan bwysig o’n gwaith. Maent yn rhoi lle i ni godi ymwybyddiaeth, rhannu gwybodaeth ddibynadwy, herio mythau a chamsyniadau, a chlywed yn uniongyrchol gan bobl niwrowahanol, teuluoedd, gweithwyr proffesiynol a phartneriaid ynglŷn â’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw.

Mae pob sgwrs yn helpu i ddatblygu ein dealltwriaeth o niwrogynhwysiant mewn gwahanol gymunedau a sefyllfaoedd. P’un a ydym ni’n siarad mewn cynhadledd, yn cynnal gweithdy, yn mynd i ddigwyddiad cyhoeddus neu’n sgwrsio gyda rhywun ar stondin, rydym ni’n gwerthfawrogi’r cyfle i wrando, dysgu a chysylltu.

Mae gennym ni fwy o ddigwyddiadau yn ein calendr yn barod. Os gwelwch chi ni hyd y lle, cofiwch ddod i ddweud helo – byddem wrth ein boddau’n siarad gyda chi, yn clywed eich profiadau ac yn rhannu mwy am ein gwaith.

Diolch i bawb sydd wedi siarad gyda ni, ein gwahodd i gyfrannu, wedi gofyn cwestiynau, rhannu profiadau neu wedi dangos diddordeb yn ein gwaith eleni. Mae eich lleisiau, eich syniadau a’ch cyfraniadau’n helpu i lywio ein camau nesaf – ac yn ein hatgoffa pam mae’r gwaith hwn yn bwysig ym mhob cwr o Gymru.

Diolch i chi am ddarllen

Diolch i chi am ddarllen rhifyn cyntaf Beth sy’n Newydd? Gobeithio ei fod wedi rhoi trosolwg defnyddiol a gobeithiol i chi o rywfaint o’r gwaith rydym wedi bod yn ei ddatblygu, ei rannu, ac yn dysgu ohono ledled Cymru eleni.

Rydym yn eich gwahodd i gael golwg ar yr adnoddau sydd yn y dolenni drwy’r newyddlen hon ac ar ein gwefan – defnyddiwch nhw yn eich cymunedau, eich gwasanaethau, eich gweithleoedd a’ch sgyrsiau, a’u rhannu gydag unrhyw un a fyddai’n eu gweld yn ddefnyddiol.

Cofiwch gadw mewn cysylltiad, ein dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol a rhannu’r neges am wybodaeth hygyrch, am ddim sy’n cyfrannu at greu Cymru sy’n fwy niwrogynhwysol. Gallwch rannu’r diweddariad hwn gyda chydweithwyr, timau, teuluoedd, cymunedau ac unrhyw un a fyddai’n ei weld yn ddefnyddiol. Bydd rhifynnau o Beth sy’n Newydd? yn y dyfodol yn cael eu cyhoeddi’n chwarterol, yn dod ag adnoddau newydd, digwyddiadau, cyfleoedd dysgu ac uchafbwyntiau gan y Tîm Niwrowahaniaeth Cenedlaethol ynghyd.

Cysylltwch â ni neurodivergencewales@wlga.gov.uk
Dilynwch ni ar Facebook, Bluesky a LinkedIn