Ddydd Mawrth 29 Medi 2020, lansiodd y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol eu gwefan newydd sbon sef AwtistiaethCymru.org/AutismWales.org (ASDinfoWales.co.uk gynt).
Er bod y wefan flaenorol yn un adnabyddus a sefydledig, ac yn darparu gwybodaeth ac adnoddau defnyddiol i bobl awtistig, eu teuluoedd, rhieni/gofalwyr, gweithwyr proffesiynol a’r cyhoedd, teimlai’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol ei bod yn bryd i’r wefan gael ei hadfywio.
Rhwng Hydref 2019 a Ionawr 2020, rhannodd y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol arolwg ar-lein yn gofyn i ddefnyddwyr y wefan, budd-ddeiliaid allweddol a rhwydweithiau am adborth am y wefan www.ASDinfoWales.co.uk. Derbyniwyd llawer o ymateb i’r arolwg gan bobl awtistig, rhieni / gofalwyr a gweithwyr proffesiynol. Cadarnhaodd yr adborth bod lle i wella o ran profiad y defnyddiwr a gwelywio’r safle, a bod angen diweddaru rhywfaint o’r cynnwys.
Ar ddechrau 2020, cwblhaodd y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol broses gaffael a chomisiynodd ddarparwr gwefan newydd. Yn ystod mis Ebrill / Mai 2020, sefydlodd y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol Fwrdd Prosiect a dau Grŵp Budd-Ddeiliaid – un ar gyfer cynnwys a’r llall ar gyfer profi. Sicrhaodd y cyfarfodydd hyn bod datblygiad y wefan newydd yn cynnwys barn a lleisiau pobl awtistig, rhieni / gofalwyr a gweithwyr proffesiynol a oedd yn gyfarwydd iawn â’r hen wefan.
Newidiadau a wnaethom…
Parth gwefan newydd
Yn dilyn adborth rheolaidd gan bobl awtistig yng Nghymru a oedd yn dweud bod “model cymdeithasol” anabledd yn fwy priodol i oedolion awtistig na’r model meddygol ar ôl cael diagnosis, roedd llawer o bobl yn teimlo bod yn well ganddynt y term “awtistiaeth” na’r term “ASD”. Gan hynny, adolygwyd y brand ac enw parth y wefan ac fe brynom barthau ar gyfer AutismWales.org / AwtistiaethCymru.org, ar ôl iddynt gael eu cymeradwyo gan y Grŵp Budd-Ddeiliad, y Bwrdd Prosiect a’r Bwrdd Rheoli Cenedlaethol.
Gwe-lywio i ddefnyddwyr
Mae gwelywio’r wefan wedi gwella ac mae bellach hyd yn oed yn fwy hygyrch i amryw o declynnau. Gall y defnyddiwr ddewis edrych ar ddewislen hir i weld beth sydd ar gael ym mhob adran o’r wefan, neu gall ddewis sgrolio trwy’r adrannau o’r dudalen Hafan. Mae’r llun isod yn dangos y dudalen Hafan newydd:
Mae’r bar offer ar y pen uchaf yn cynnwys:
- Dolenni hygyrchedd, fel y gall y defnyddiwr ddewis
- iaith
- maint testun
- Hidlydd lliw cefndir / testun
- Manylion cyswllt y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol a chysylltiadau yn eich ardal leol.
- Mae gwybodaeth a dogfennau allweddol gan y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru ar gael o dan Amdanom Ni.
- Mae’r wybodaeth ddiweddaraf ac eitemau newyddion ar gael yn yr adran Newyddion a digwyddiadau
- Mae’r tab adnoddau yn cynnwys dolenni cyswllt i weld ein holl ffilmiau, yn ogystal â sefydliadau defnyddiol eraill a’u hadnoddau nhw, gan gynnwys gwasanaethau Niwroddatblygiadol Cymru.
- Gallwch fewngofnodi trwy greu enw defnyddiwr a chyfrinair personol i ddefnyddio ein hadnoddau rhyngweithiol a chwblhau’r cynlluniau ardystiedig. Caiff y rhain eu harbed yn eich Dangosfwrdd Defnyddiwr personol.
Rydym wedi ailstrwythuro’r prif adrannau fel bo modd i ddefnyddwyr gael gafael ar yr holl wybodaeth berthnasol yn fwy effeithiol ac effeithlon. Mae crynodeb o’r adnoddau sydd ar gael o dan bob adran hefyd ar gael i’w gweld o’r ddewislen ac ar y dudalen we:
Gwell hygyrchedd
- Addasu maint testun
- Opsiynau hidlyddion lliw cefndir
- Opsiynau iaith
- Is-deitlau ar ffilmiau
Am fwy o wybodaeth cliciwch yma i ddarllen ein datganiad Hygyrchedd.
Beth nesaf?
Bydd y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol yn parhau i weithio gyda’n Grwpiau Budd-Ddeiliaid i wella’r cynnwys a’r adnoddau sydd ar gael ar draws y wefan. Dyma rai meysydd yr ydym yn bwriadu eu datblygu ymhellach dros y misoedd nesaf:
- Fersiynau o’r comig Archarwr Awtistiaeth a’r llyfrau stori sy’n rhyngweithiol ac wedi’u hadrodd.
- ‘Dangosfwrdd Defnyddiwr’ i greu safle personol i’r defnyddiwr.
- Adnoddau a dogfennau Hawdd Eu Deall
- ‘Ardal Plant a Phobl Ifanc’.
- Adnoddau cyflogaeth gwell.
- Y gwaith ymchwil a’r wybodaeth ddiweddaraf.
- Astudiaethau Achos i ganfod yr arferion da sy’n digwydd mewn gwasanaethau awtistiaeth ac Awdurdodau Lleol yng Nghymru.
Gerraint Jones Griffiths, person awtistig a Llysgennad Arweiniol y prosiect Engage to Change, All Wales People First. Aelod o Fwrdd Prosiect AwtistiaethCymru.org.
“Mae sefyllfa bresennol Covid-19 wedi tynnu sylw at bwysigrwydd gwybodaeth gywir, ddibynadwy ar gael yn rhwydd i bawb. Mae hefyd mor bwysig bod y wybodaeth ar gael mewn ffurf hygyrch. Rôl y Grŵp Rhanddeiliaid Cynnwys oedd edrych ar y ffordd yr oedd defnyddwyr yn llywio’r wefan. Cryfder y Grŵp fu’r ystod o aelodaeth. Nid yw’n ddigon da poblogi grŵp o’r fath gyda gweithwyr proffesiynol. Mae’n hanfodol bod y rhai sydd â phrofiad byw o’r cyflwr, a all ddweud a yw rhywbeth yn gweithio, yn cael eu cynnwys yn y broses. Yn syml iawn, nid oes unrhyw faint o hyfforddiant na phrofiad yn cyfateb yn llwyr â mewnwelediad unigolion awtistig eu hunain, ac mae wedi bod yn gymaint o fraint cael gweithio gyda nhw. Gobeithiwn fod y Grŵp Rhanddeiliaid Cynnwys wedi helpu i gynhyrchu gwefan newydd sydd â’r holl bethau da dibynadwy a oedd gan yr hen un, ond nawr ei bod yn llawer haws dod o hyd iddi ac mewn fformat mwy hygyrch. Yn bwysig, mae wedi cael ei lunio gan bobl sy’n cynrychioli’r rhai a fydd yn ei ddefnyddio ac yn elwa ohono.”
Keith Ingram, Arweinydd Awtistiaeth Caerdydd a Bro Morgannwg. Aelod o Grŵp Rhanddeiliaid Cynnwys AwtistiaethCymru.org