Yr haf yma bydd Canolfan Mileniwm Cymru yn cyflwyno’r perfformiad ymlaciedig cyntaf o sioe gerdd ar raddfa fawr yn Theatr Donald Gordon, sydd â 1,800 o seddi. Mae perfformiad prynhawn dydd Iau 8 Awst 2019 o Madagascar The Musical wedi ei gynllunio ar gyfer pobl sy’n ei chael yn anodd mynd i’r theatr, yn cynnwys rhai sydd â chyflwr sbectrwm awtistiaeth, anabledd dysgu, neu anhwylder synhwyraidd a chyfathrebu.
Mae’r perfformiad yn agored i bawb ac yn cynnwys nifer o addasiadau synhwyraidd megis lefelau sŵn is, goleuo mwy llachar ac awyrgylch llai ffurfiol. Bydd Madagascar yn antur fythgofiadwy i bawb ac yn annog awyrgylch lle bydd pawb yn teimlo’n ddiogel ac yn rhydd i ymateb i’r sioe fel y dymunant.
Cafodd perfformiadau ymlaciedig ei gyflwyno am y tro cyntaf fel rhan o raglen Canolfan Mileniwm Cymru yn Rhagfyr 2016 gyda The Bear, ac yna Almost Always Muddy, The Girl With The Incredibly Long Hair a Duckie yn 2018, a gynhaliwyd yn y theatr stiwdio lai o fewn y Ganolfan, Stiwdio Weston a mannau cyhoeddus.
Mae perfformiadau sy’n cynnwys is-deitlau ac iaith arwyddion Prydeinig ar gael ar gyfer y rhan fwyaf o sioeau cerdd a chynyrchiadau theatr teithiol sy’n dod i’r Ganolfan. Mae’r ychwanegiad yma o berfformiad ymlaciedig o Madagascar The Musical ar ein prif lwyfan yn dangos gweledigaeth y Ganolfan i groesawu cynifer o bobl â phosib i fwynhau theatr byw ac adloniant a thanio eu dychymyg.
Dywed Sarah Leigh, Rheolwr Cyffredinol: Celfyddydau a Chreadigol yng Nghanolfan Mileniwm Cymru: “As the national arts centre for Wales, we want to ensure our programme is accessible to all, which is why I am thrilled that we are able to extend relaxed performances to our main stage. We hope to welcome audiences both new and old to the Centre for this magical show, and I hope it will be the first of many relaxed performances of major touring productions that we present here.”
Dywed Meleri Thomas, Rheolwr Materion Allanol i National Autistic Society Cymru: “Autistic people and their families tell us that they would love to visit the theatre, but because of sensory issues and anxiety in unfamiliar surroundings, they are often prevented from doing so.
“We are thrilled to be working alongside the Wales Millennium Centre to help develop autism-friendly performances that take into account some of the challenges that autistic people and their families can face and enable them to enjoy live theatre in an environment that works for them.”
Fel rhan o’r perfformiad ymlaciedig, bydd hawl gan y mynychwyr i fynd a dod o’r theatr fel y dymunant. Bydd y Ganolfan hefyd yn cynnig gofodau tawel i bwy bynnag sydd eu hangen, yn darparu stori weledol sy’n esbonio popeth – o gyrraedd y Ganolfan i adael y sioe – ac yn cynnal taith ymgyfarwyddo cyn-sioe o’r theatr. Gall cynulleidfaoedd gael cysur o wybod, er bod addasiadau yn cael eu gwneud i’r sioe ac i’r theatr, nad yw’r stori ei hun yn cael ei heffeithio.
Wedi’i seilio ar ffilm hynod boblogaidd DreamWorks, mae Madagasgar the Musical yn dilyn Alex y llew (perfformir gan Matt Terry, enillydd yr X Factor yn 2016), Marty y Zebra, Melman y Jiráff a Gloria yr hipo wrth iddyn nhw ddianc o’u cartref yn Sw Central Park, Efrog Newydd a chael eu hunain ar daith annisgwyl i fyd gwallgof Madagasgar y Brenin Julien.
Dywed David Hutchinson, Prif Weithredwr Selladoor: “Relaxed performances allow access to these wonderful shows for those of us who may avoid theatre due to the potential for the situation to cause more stress or discomfort for ourselves and our loved ones. They are quickly becoming a vital part of an inclusive theatrical society.”
Cynhelir y perfformiad ymlaciedig yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ddydd Iau 8 Awst am 2pm.
Canllaw oed: 3+ (dim plant dan 2 oed)
Tocynnau: £16 – £31
Mae gostyngiadau ar gael gyda’r tocynnau yn y ddau bris drutaf: Dan 16 – gostyngiad o £7.50; Anabl, Henoed, Myfyrwyr a Di-gyflog – gostyngiad o £5
Ar werth yn awr trwy wmc.org.uk neu 02920 636464
I drefnu lle ar gyfer cadair olwyn, neu i ofyn unrhyw gwestiynau am eich ymweliad i’r Ganolfan, ffoniwch 02920 636464.
naeth Cysylltiadau, Canolfan Mileniwm Cymru: elin.rees@wmc.org.uk/ 07917 308329