Datganiad gan y Tîm Niwrowahaniaeth Cenedlaethol

Datganiad gan y Tîm Niwrowahaniaeth Cenedlaethol:

Gadewch i ni egluro’r ffeithiau.

Mae awtistiaeth yn wahaniaeth niwro-ddatblygiadol, nid clefyd, nid nam, ac yn sicr nid yw’n cael ei achosi gan gymryd paracetamol yn ystod beichiogrwydd.

Rydym yn sefyll yn gadarn gyda’r GIG, y Gymdeithas Awtistig Genedlaethol, ac arbenigwyr iechyd blaenllaw y DU wrth wrthod honiadau diweddar yr Arlywydd Trump. Nid oes unrhyw dystiolaeth wyddonol sy’n cysylltu paracetamol neu frechlynnau ag awtistiaeth.

Mae lledaenu camwybodaeth fel hyn yn:

  • Tanseilio degawdau o ymchwil drylwyr
  • Tanio stigma yn erbyn pobl awtistig a’u teuluoedd
  • Peryglu iechyd y cyhoedd trwy atal arferion meddygol diogel

I gael gwell dealltwriaeth o Awtistiaeth, trowch at ffynonellau dibynadwy fel NiwrowahaniaethCymru.org, y GIG neu’r Gymdeithas Awtistig Genedlaethol. Gadewch i ni adeiladu byd sy’n seiliedig ar ffeithiau, empathi, a pharch, nid codi ofn.