Cafodd canllaw newydd wedi’i gynllunio i helpu darparwyr hyfforddi i gefnogi pobl awtistig ei lansio yng Nghaerdydd heddiw.
Wedi’i ddatblygu gan y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol mewn partneriaeth gyda Ffederasiwn Hyfforddi Cenedlaethol Cymru a nifer o ddarparwyr, wedi’i gyllido gan Lywodraeth Cymru, mae’r canllaw yn ymateb i angen sydd wedi ei adnabod gan bobl awtistig am fwy o ymwybyddiaeth o’r cyflwr gan ddarparwyr hyfforddi a dysgu yn y gweithle.
Yn ran o gynllun Gweithio gydag Awtistiaeth, mae’r pecyn o adnoddau yn cynnwys cyngor i ddarparwyr hyfforddiant am sut i greu amgylchfeydd sy’n gyfeillgar i awtistiaeth i ddysgwyr yn y gweithle, yn amrywio o ystyriaethau synhwyrol a chyfathrebu, i reoli tasgau a chefnogi dysgwyr gyda’u gwaith.
Dywedodd y Cynghorydd Huw David (Penybont ar Ogwr), Llefarydd CLlLC dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol:
“Mae cyfleon hyfforddi a dysgu yn y gweithle yn bethau y mae llawer ohonom ni o bosib yn eu cymryd yn ganiataol. Ond i bobl awtistig, gall awyrgylch o’r fath gyflwyno heriau a thrafferthion unigryw.
“Wedi’i gyllido gan Lywodraeth Cymru ac wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth â nifer o ddarparwyr hyfforddiant, bydd yr adnodd newydd gwych yma yn gyfraniad gwerthfawr tuag at gynyddu ymwybyddiaeth o’r cyflwr ac i helpu pobl awtistig i ffynnu a datblygu yn y gweithle. Dyma esiampl arall o’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol yn gwrando i bobl awtistig ac yn gweithio mewn partneriaeth i ymateb i’w anghenion unigol, a rwy’n argymell pob darparwr i’w ddefnyddio.”
Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams:
“Rydyn ni wedi ymrwymo’n llwyr i wella bywydau dysgwyr awtistig, ac yn ymwybodol o’r heriau y mae nhw a’u teuluoedd yn eu wynebu yn ddyddiol. Mae’r adnodd ‘Gweithio gydag Awtistiaeth’ yn gysylltiedig a’n agenda cyflogadwyedd a’r rhaglen drawsnewid anghenion dysgu ychwanegol, sydd â’r nod o sicrhau bob pob dysgwr, gan gynnwys dysgwyr awtistig, yn cael eu cefnogi i oresgyn unrhyw dramgwyddau i gyflogaeth neu addysg.”
Mae’r adnodd, ynghyd ag ystod o rai eraill, ar gael i’w defnyddio ar www.ASDinfoWales.co.uk