Mae'r coronafeirws wedi cael effaith enfawr ar bob un o'n bywydau, ond i bobl awtistig gall gyflwyno heriau penodol.
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd eisiau darganfod sut mae cyfyngiadau fel pellhau cymdeithasol yn effeithio ar iechyd meddwl a lles oedolion awtistig.
Gobeithiwn y bydd yr ymchwil hon yn helpu gwasanaethau i gefnogi oedolion awtistig yn ystod yr amser anodd hwn.
Pwy all gymryd rhan?
Os ydych chi'n 18 oed neu'n hÅ·n ac yn byw yn y Deyrnas Unedig, byddai Prifysgol Caerdydd wrth ei bodd yn clywed gennych.
Hoffent gynnwys pobl awtistig, a phobl heb ddiagnosis awtistiaeth, er mwyn cymharu atebion gan y ddau grŵp.
Beth sydd angen i mi ei wneud?
Anfonir arolwg byr ar-lein atoch i'w lenwi bob pythefnos am gyfnod o dri mis.
Mae'r rhan fwyaf o'r arolygon hyn yn fyr iawn a dylent gymryd 5 munud i'w cwblhau yn unig. Mae'r arolwg cyntaf ychydig yn hirach a bydd yn cymryd 20-30 munud.
Os hoffech chi gymryd rhan neu eisiau fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen isod:
https://cardiffunipsych.eu.qualtrics.com/jfe/form/SV_6LPCtnWLQyN572B
Diolch yn fawr.
Sylwch: bydd yr astudiaeth hon yn Saesneg yn unig.