Lansio ap newydd i helpu plant a phobl ifanc ag awtistiaeth

Lansio ap newydd i helpu plant a phobl ifanc ag awtistiaeth

Mae ap electronig newydd ar gyfer ffonau symudol a theclynnau tabled wedi ei lansio i hwyluso rhannu gwybodaeth â phlant a phobl ifanc ag awtistiaeth a’u cefnogi.

Cynlluniwyd ap ‘About Me’ mewn ymateb i adborth gan bobl ifanc ag awtistiaeth, a bydd yn ei gwneud hi’n haws iddynt gael gafael mewn gwybodaeth am eu cyflwr, ei chadw a’i rhannu â gweithwyr proffesiynol. Nod yr ap yw gwneud y plentyn yn ganolbwynt ymarferion clinigol, a bydd yn darparu dull llai costus o rannu gwybodaeth.

 

Mae’r Pasbort Awtistiaeth yn enghraifft o gydgynhyrchiad llwyddiannus rhwng pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol. Cafodd ei ddatblygu o fewn y Bwrdd Iechyd gan ddefnyddio ffolder bapur, a phobl ifanc ag awtistiaeth fu’n dylunio’r ffolder ar y cyd â gweithwyr proffesiynol.

Yn sgil ceisiadau am fersiwn electronig ohono, crëwyd prototeip o’r ap gan berson ifanc dawnus ag awtistiaeth, gyda chefnogaeth gan gronfa Technoleg Iechyd Prifysgol Abertawe.

Yn olaf, fe ariannodd Partneriaeth Gwyddoniaeth Academaidd De-ddwyrain Cymru bartneriaeth academaidd a masnachol ar y cyd â’r Gwasanaeth Iechyd rhwng tîm Canolfan Ymchwil Awtistiaeth (CARIAD) Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Prifysgol Abertawe a Smyl Connect, i hwyluso creu’r ap Android. Yn ystod y broses ddatblygu, holwyd barn gweithwyr proffesiynol ym meysydd y gwasanaethau cymdeithasol, y sector wirfoddol a darparwyr technoleg.

Mae’r ap symudol newydd, sydd ar gael ar y platfform Android ar hyn o bryd, yn cynnwys gwybodaeth allweddol am unigolion ag awtistiaeth, gan gynnwys proffil o’u hanghenion a’u cryfderau, dyfais i fesur cynnydd y broses asesu a gwybodaeth am wasanaethau cefnogaeth sydd ar gael.

Dywedodd yr Athro Alka Ahuja, Seiciatrydd Ymgynghorol Plant a Phobl Ifanc ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, ac arweinydd y cynllun:  “Mae ap ‘About Me’ yn hygyrch ac yn galluogi i bobl ifanc a’u teuluoedd rannu gwybodaeth allweddol â gwasanaethau yn achos argyfwng. Bydd yr ap yn help i leddfu pryder a sicrhau priodoli’r math mwyaf addas o gefnogaeth.

“Bydd yn ehangu pwyslais gwybodaeth o fod yn ymwneud ag asesiadau proffesiynol yn unig i fod yn nwylo unigolion, a bydd yn eu galluogi i’w defnyddio i wella eu hiechyd a’u gofal.”

Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd Cyhoeddus: “Mae Cymru wedi arwain y ffordd ers rhai blynyddoedd bellach ym maes datblygu gwasanaethau a chefnogaeth arloesol i bobl ag awtistiaeth. Dyma’r cam nesaf ar lwybr cyflwyno’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Cenedlaethol i bob oed, yn ogystal â fersiwn ddiweddaraf ein darpar Gynllun Gweithredu Strategol ar Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistiaeth.

“Mae ap ‘About Me’ yn gyfraniad penigamp i’r gwasanaethau hyn. Drwy wrando ar bobl ag awtistiaeth a chydweithio â nhw, gallwn feithrin gwell ddealltwriaeth o’r hyn all wneud gwahaniaeth go iawn i’w bywydau nhw a’u teuluoedd, ac rwy’n argyhoeddedig y bydd yr ap yn gwneud hynny. Hoffwn longyfarch pawb sydd wedi gweithio ar ei ddatblygiad.”

 

Ariannwyd datblygiad yr ap symudol gan Her Technoleg Iechyd Cymru. Gellir ei lawrlwytho yn rhad ac am ddim o’r Google Play Store drwy chwilio ‘About Me (autism passport)’ neu drwy’r ddolen hon https://play.google.com/store/apps/details?id=ua.com.doublekey.aboutme&hl=en_GB

Yn Saesneg yn unig y mae’r ap ar gael ar hyn o bryd.

 

Yr Athro Alka Ahuja, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (ABUHB)

Alka.ahuja@wales.nhs.uk