Mae CLlLC yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a gwybodus i ymuno â'r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol sydd wedi ei leoli yng Nghaerdydd. Bydd y swydd yn cynnwys ymchwilio i’r offer; pedagogeg; ac adnoddau sy’n cefnogi’r unigolion hynny sy’n gweithio gydag unigolion ag awtistiaeth, a’u datblygiad, a fydd yn cynnwys casglu a monitro data’n effeithiol. Bydd hefyd yn cefnogi’r hyfforddiant ar ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o awtistiaeth.
Mae sgiliau TG rhagorol a chreadigrwydd wrth ddatblygu adnoddau ysgrifenedig a gweledol i unigolion awtistig, rhieni a gofalwyr a gweithwyr proffesiynol, law yn llaw â sgiliau rhyngbersonol da yn allweddol ar gyfer y swydd hon. Byddai profiad a gwybodaeth o awtistiaeth a chyflyrau niwroddatblygiadol eraill yn fanteisiol.
Caiff y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol ei letya gan CLlLC mewn partneriaeth â Iechyd Cyhoeddus Cymru, a’i brif swyddogaeth yw cefnogi darpariaeth Cynllun Strategol a Chynllun Cyflawni ASA Llywodraeth Cymru ar y cyd â budd-ddeiliaid allweddol. Pwrpas sylfaenol y tîm yw i wella bywydau unigolion awtistig yng Nghymru.
Dyma gontract cyfnod penodol hyd at 31 Mawrth 2022. Byddai secondiadau yn cael eu croesawu (wedi’u cytuno arnynt gyda’r cyflogwr cyn y cyfweliad).
Am ragor o wybodaeth, ymwelwch â’n gwefan www.ASDinfoWales.co.uk ac/neu am drafodaeth anffurfiol, rhowch alwad i Sara Harvey ar 07880 794322 neu i Wendy Thomas ar 07717 822479.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Llun 13 Mai, 09:30.