Tîm Awtistiaeth Rithwir Cymru Gyfan – Rhestr Adnoddau
Mae Tîm Awtistiaeth Rithwir Cymru Gyfan wedi cynhyrchu crynodeb o adnoddau yn ystod y pandemig Covid-19.
Mae Tîm Awtistiaeth Rithwir Cymru wedi'i sefydlu i ddarparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad cywir, defnyddiol a diweddar yn ystod argyfwng COVID-19 i bobl awtistig Cymru, rhieni a gofalwyr pobl awtistig a gweithwyr proffesiynol. Trwy gyfarfodydd rhithwir, mae'r Grŵp yn nodi themâu allweddol, gwybodaeth, cyngor ac arweiniad o amrywiaeth o ffynonellau. Defnyddir hwn i goladu a lledaenu gwybodaeth am y materion ‘mwyaf dybryd’ mewn ffordd hawdd ei defnyddio a hygyrch. Mae'r ddogfen hon yn darparu rhestr o'r adnoddau a adnabuwyd gan y grŵp.
Mae'r rhestr wedi'i chategoreiddio i'r categorïau canlynol: Gwybodaeth Gyffredinol, Pontio, Asesiadau Rhithiol, Iechyd Meddwl, Adnoddau ar gyfer Rhieni/ Gofalwyr, Adnoddau ar gyfer Oedolion Awtistig, Lles, Profiadau Awtistig.
Cliciwch yma i lawrlwytho'r ddogfen PDF a gweld y rhestr lawn o adnoddau.