Profi, Olrhain a Diogelu (TTP): y broses yng Nghymru
Mae’r Tîm Awtistiaeth Rithwir Cymru Gyfan wedi gweithio efo Llywodraeth Cymru i gynhyrchu dogfen sy’n esbonio’r canllawiau a’r broses newydd o amgylch Prawf, Olrhain a Diogelu (TTP) yma yng Nghymru. Dadlwythwch a gweld y ddogfen trwy glicio yma.
Cafodd Tîm Awtistiaeth Rithwir Cymru ei sefydlu ar ddechrau’r cyfnod cyfyngu ac yn cael ei redeg gan y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol. Mae’r Grŵp, sy’n cynnwys amrywiaeth o weithwyr proffesiynol Iechyd a Gofal Cymdeithasol, sefydliadau gwirfoddol, ac unigolion awtistig gyda’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, yn cyfarfod bob wythnos i drafod materion a pharatoi dogfennau defnyddiol i gefnogi’r gymuned awtistig a’u teuluoedd a gofalwyr yn ystod y cyfnod cyfyngu, ac wrth i ni ddod allan o’r cyfnod cyfyngu. Wrth i gyfyngiadau clo barhau i gael eu llacio yng Nghymru, bydd y grŵp yn cyfarfod yn llai aml, ond byddent yn parhau i ddatblygu cyngor a chyfarwyddyd defnyddiol mewn perthynas â materion fel trosglwyddo’n ôl i’r ysgol, cludiant a brechiadau.
I lawr lwytho fersiwn PRINT o’r ddogfen cliciwch yma.