Annwyl bawb,
Ysgol Haf Cyfle i Darganfod a gynhelir gan Brifysgol Caerdydd
Rwy'n ysgrifennu atoch mewn perthynas â’r Ysgol Haf Cyfle i Ddarganfod ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’r ysgol haf breswyl wedi’i hanelu at ddysgwyr ifanc o’n Rhaglen ‘Darganfod’, sef rhaglen yn benodol ar gyfer y rheiny rhwng 14 a 19 oed sydd ag Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig. Nod y rhaglen yw codi dyheadau a hefyd i gynnig cymorth ymarferol i helpu’r bobl ifanc i barhau â’u hastudiaethau ôl-16. Mae hefyd yn golygu y gall dysgwyr brofi bywyd y Brifysgol dros eu hunain gyda’r gobaith o roi hyder i fyfyrwyr, a blas go iawn ar sut mae myfyrwyr yn byw.
Bydd y rheiny sy’n cymryd rhan yn yr Ysgol Haf Cyfle i Ddarganfod yn elwa o’r profiadau canlynol:
- Treulio amser ac aros mewn llety myfyrwyr gyda myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig presennol
- Profi sesiynau blasu academaidd gydag arbenigwyr yn y meysydd o’u dewis
- Sesiynau sy'n rhoi cyngor ar ysgrifennu datganiadau personol a chyfweliadau ffug, cyllidebu a sgyrsiau gan wasanaethau cymorth
- Cyfle i brofi bywyd yn y ddinas fel myfyriwr Prifysgol
- Y cyfle i gymryd rhan yn y cynlluniau Camu i Fyny a Chamu i Fyny Ymhellach yn y dyfodol
- Cael sesiynau blasu ar gyfer cyfleoedd y tu allan i astudio, gan gynnwys cymdeithasau a chlybiau chwaraeon
Rydym ni dal wrthi’n datblygu’r rhaglen ar gyfer eleni, felly nid oes rhaglen ar gael eto, ond gallwch anfon e-bost ataf os hoffech ragor o wybodaeth. Dyma amgáu rhaglen y llynedd i roi syniad bras i chi.
Mae ymchwil o’n rhaglenni eraill yn dangos bod rhyngweithio â chynllun Prifysgol yn helpu pobl ifanc i ddod yn fwy cyfarwydd â lleoliad Addysg Uwch ac yn fwy tebygol o fynd ymlaen i astudio yn y Brifysgol. Rydym hefyd wedi gweld pobl sydd wedi dod drwy'r rhaglen hon yn mynd i'r brifysgol, gan gynnwys un person a fydd yn dechrau ym mis Medi 2017. Felly rydym ni’n gobeithio y gall fod yn brofiad cadarnhaol iawn i bawb sy'n cymryd rhan.
Sut i gymryd rhan cyllidebu a sgyrsiau gan wasanaethau cymorth

Sut i gymryd rhan
Gan fod rhaid cael rhai manylion er mwyn monitro ac adrodd, mae gofyn llenwi dwy ffurflen er mwyn archebu lle ar yr ysgol haf. Unwaith y bydd y rhain wedi’u llenwi a’u llofnodi, ewch ati i’w sganio a’u hanfon mewn e-bost at discovery@cardiff.ac.uk, neu yn y post i'r cyfeiriad isod, a byddwn yn cysylltu â chi i gadarnhau eich lle.
Simon Reeds
3ydd Llawr
TÅ· Friary
Heol y Brodyr Llwydion
Caerdydd
CF10 3AE
Dyma roi gwybod bod nifer cyfyngedig o leoedd yn yr ysgol haf, ond yn bendant nid oes unrhyw ofynion o ran graddau nac unrhyw gyfyngiadau ar bresenoldeb ar wahân i hynny, ac rydym ni’n croesawu pawb sydd â diddordeb lle bo hynny'n bosibl.
Os hoffech archebu lle i fwy nag un person, dim ond un 'ffurflen gyfeirio’ y bydd gofyn i chi ei llenwi, ond mae angen caniatâd rhieni ar gyfer pob person ifanc.
Os ydych chi’n cael unrhyw drafferthion gyda’r broses archebu neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr Ysgol Haf, byddaf i ar gael fel prif gyswllt. Bydd fy nghydweithiwr, Helena Fern, hefyd yn gweithio ar y prosiect ac mae hefyd yn hapus i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Os oes gennych ffrindiau neu os ydych chi’n gwybod am bobl ifanc eraill sydd ag anhwylder ar y sbectrwm awtistig, mae croeso i chi basio’r wybodaeth hon ymlaen.
Byddwn yn defnyddio cyfeiriad e-bost canolog i’w gwneud yn haws i chi gysylltu â ni, sef discovery@cardiff.ac.uk a rhif ffôn fy swyddfa yw 02920874968.
Edrychaf ymlaen at glywed gennych eto’n fuan.
Simon