Gwybodaeth i rieni a gofalwyr

Datblygwyd yr wybodaeth yn yr adran hon gyda phobl awtistig, rhieni a gofalwyr a gweithwyr proffesiynol. Mae’r adnoddau wedi eu hanelu gynyddu gwybodaeth, sgiliau, dealltwriaeth o awtistiaeth ac arfau ymarferol i rieni a gofalwyr pobl awtistig.

Fideos awtistiaeth i rieni a gofalwyr

Mae’r ffilmiau hyn yn cynnig cipolwg ar awtistiaeth a chyngor ymarferol i rieni a gofalwyr.

ASDinfoWales – ffilm i rieni a gofalwyr

Mae’r ffilm yma’n archwilio awtistiaeth drwy lais pobl awtistig, rhieni sy’n gofalu a gweithwyr proffesiynol.

Ffilm byw gydag awtistiaeth

Mae’r ffilm hon yn dangos bywyd bob dydd ystod o bobl ag awtistiaeth.

Weli di fi?

Disgrifir awtistiaeth fel anabledd anweledig. Nod y cynllun Weli di fi yw codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth yn y gymuned.