Sesiynau Cymuned Ymarfer ar gyfer Adnoddau Dynol

How to Use This Training Film

Gellir defnyddio’r recordiad hon ar gyfer dysgu unigol neu fel rhan o ddatblygiad tîm. Gwyliwch yn llawn neu mewn adrannau, oedi i fyfyrio ar sut mae’r cynnwys yn  berthnasol i’ch sefydliad, a’i ddefnyddio i lywio trafodaethau, adolygiadau polisi a gweithredu ymarferol. Anogir gwylwyr i nodi o leiaf un newid y gallant ei weithredu yn eu rôl.

Ynglŷn â’r Hyfforddwr

Mae gan Catherine (Cath) Leggett gefndir mewn peirianneg ac mae wedi gweithio yn y maes awtistiaeth ers 2014. Yn awtistig ei hun, mae Catherine yn dod â phrofiad byw a phroffesiynol i’r gwaith. Maent wedi darparu rhaglenni cyflogadwyedd, cymorth yn y gweithle ac ymgynghoriaeth ar gyfer gweithwyr a chyflogwyr awtistig, ac maent bellach yn dylunio ac yn darparu hyfforddiant ar gyfer gweithwyr proffesiynol AD, rhieni a gofalwyr, gwasanaethau gofal iechyd ac iechyd meddwl, gweithwyr proffesiynol gyrfaoedd, ac Ymddiriedolaethau Iechyd Meddwl y GIG.

Sesiwn 1: Recriwtio, Ymgysylltu a Chymorth

Sesiwn 2: Perfformiad, Adborth a Diwylliant

Recordiwyd y sesiynau byw hyn ar gyfer dysgu a datblygiad parhaus.

Recordiwyd y sesiynau byw hyn ar gyfer dysgu a datblygiad parhaus.

Mae’r sesiwn ryngweithiol hon yn archwilio sut y gall timau AD adeiladu ymarfer niwrogadarnhaol ar draws camau cynnar cylch bywyd y gweithwyr.

Mae’r themâu allweddol yn cynnwys:
1. Cryfderau gweithwyr niwrowahanol 
2. Recriwtio ac ymgysylltu cynhwysol 
3. Creu amgylcheddau cefnogol ar gyfer llwyddiant hirdymor
4. Enghreifftiau o arferion da ac awgrymiadau ymarferol 

Gan adeiladu ar Sesiwn 1, mae’r sesiwn hon yn canolbwyntio ar ymgorffori ymarfer niwrogadarnhaol mewn rheoli perfformiad a diwylliant yn y gweithle.

Mae’r themâu allweddol yn cynnwys:
1. Cryfderau gweithwyr niwrowahanol 
2. Adborth, perfformiad a diwylliant yn y gweithle 
3. Cynnal amgylcheddau cefnogol 
4. Enghreifftiau o arferion da ac awgrymiadau ymarferol

Canlyniad

Mae cyfranogwyr yn gadael gydag teclynnau ymarferol, gweithredadwy i wella ymarfer AD, gwella profiad gweithwyr a chreu diwylliannau lle mae niwrowahaniaeth yn cael ei gydnabod fel ased gwirioneddol.

Adborth Adnoddau Niwrowahaniaeth Cymru

Mae’r broses o ddiweddaru’r adnoddau ar wefan Niwrowahaniaeth Cymru yn mynd rhagddi, ac rydym bob amser yn awyddus i ofyn am adborth pobl er mwyn gwneud hyn. Defnyddiwch y ffurflen hon i roi sylwadau ar unrhyw un o’r adnoddau ar y wefan.