Dysgu Electronig

Niwrowahaniaeth Cymru eDdysgu

Croeso i’n tudalen eDdysgu. Yn yr adran hon fe welwch gyfres o fodiwlau eDdysgu, sy’n canolbwyntio ar ystod o gyflyrau niwrowahaniaeth. Mae’r modiwlau hyn wedi’u cyd-gynhyrchu gyda, ac yn cynnwys cyfraniadau fideo gan, bobl o fewn y gymuned niwrowahaniaeth.

Bydd yr adran hon yn cael ei diweddaru’n rheolaidd gyda modiwlau newydd wrth iddynt gael eu datblygu.

Modiwlau

Yn yr adran hon mae set o fodiwlau eDdysgu strwythuredig sy’n dilyn Fframwaith Hyfforddiant Awtistiaeth Cenedlaethol i Gymru.

Argymhellir bod pawb yn gwneud y ddau fodiwl cyntaf fel rhan o’u hyfforddiant sylfaenol. Bydd y ddau fodiwl hyn yn rhoi lefel sylfaenol o ddealltwriaeth i chi o awtistiaeth a’r ffyrdd y gall effeithio ar fywydau beunyddiol pobl Awtistig.

Os ydych yn gweithio i Awdurdod Lleol neu’r Bwrdd Iechyd, dylai’r modiwlau hyn fod ar gael ar eich platfform dysgu a byddem yn eich cynghori i’w cwblhau ar eich platfform dysgu eich hun.

Deall Awtistiaeth
Deall Awtistiaeth
Awtistiaeth a Deall Sut i Gyfathrebu’n Effeithiol
Deall Asesiad ac Awtistiaeth

Ardystiad Deall a Derbyn Awtistiaeth

Rydym wedi cyfuno ein hymgyrch ‘Can You See Me’ a chynlluniau ‘Autism Aware’ i greu cynllun ‘sefydliadau Deall a Derbyn Awtistiaeth’. Mae’r cynllun hwn wedi’i adeiladu o amgylch y ddau fodiwl eDdysgu cyntaf.

Dogfennau Allweddol

Dogfen Proffil Swydd a Thasgau – Mae’r ddogfen hon yn cyd-fynd â’r fframwaith hyfforddi Cenedlaethol – trwy nodi’r mathau o ddyletswyddau o fewn eich rôl, mae’n cynnig arweiniad ar ba lefel o’r fframwaith hyfforddi y gallai eich rôl fod.

Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol – Canllawiau ar gyfer Comisiynu Hyfforddiant – Mae’r ddogfen hon yn cyd-fynd â’r fframwaith hyfforddi Cenedlaethol – os ydych yn comisiynu hyfforddiant, mae’n cynnig arweiniad ar gyfer pob lefel, gan edrych ar yr hyn y dylai’r fanyleb ei gynnwys a’r hyn y dylai’r darparwr hyfforddiant allu ei ddangos a darparu tystiolaeth ohono.

Fframwaith Hyfforddiant Awtistiaeth Cenedlaethol i Gymru
Proffil Swydd a Thasgau ar gyfer Fframwaith Hyfforddiant Awtistiaeth Cenedlaethol Cymru
Fframwaith Hyfforddiant Awtistiaeth Cenedlaethol i Gymru - Canllawiau ar gyfer comisiynu hyfforddiant