Fe gyfeiriodd MR ei hun at Wasanaeth Awtistiaeth Integredig Bae’r Gorllewin yn Ebrill 2019 am asesiad diagnostig o awtistiaeth. Dywedodd wrth y gwasanaeth ei bod wedi cael “anawsterau difrifol” ers gadael y brifysgol. Eglurodd MR fod sefyllfaoedd cymdeithasol yn eithriadol o anodd iddi ac nad ydy hi’n gallu mynd i apwyntiadau neu gyfarfodydd ar ei phen ei hun.
Cafodd MR ddiagnosis o Awtistiaeth ym Mai 2019, ac aeth ar Gwrs Ôl-ddiagnostig ym Medi 2019. Drwy fynd ar y cwrs, rhoddwyd y cyfle i MR feddwl am ei hawtistiaeth a bod yn agored am ei thrafferthion. Siaradodd y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig ag MR am ei hawliau fel gweithiwr ac fel unigolyn, a daethpwyd i wybod ei bod wedi cael profiad trist gydag asesiad Taliad Annibyniaeth Bersonol, yr ystyriodd yn drawmatig gan arwain ati hi’n colli taliadau. O ganlyniad i’w hanawsterau cymdeithasol a chyfathrebu, nid oedd yn gallu egluro ei hanawsterau’n effeithiol i asesydd. Heb y taliadau hyn, roedd yn dod yn debygol y byddai’n gorfod symud yn ôl i dŷ ei rhieni, gan na fyddai’n gallu byw yn annibynnol yn ariannol mwyach.
Fel tîm, roedd y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig yn gallu ei chefnogi i herio’r ffordd y cafodd ei hasesu a chael asesiad arall. Roedd y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig hefyd yn gallu dangos tystiolaeth o sut mae awtistiaeth MR yn ei heffeithio o ddydd i ddydd.
Roedd dyfarniad Taliad Annibyniaeth Bersonol MR yn llwyddiannus, ac mae hi bellach yn gallu parhau i fyw yn annibynnol.