Cefnogi oedolyn Awtistig i gael mynediad at Daliad Annibyniaeth Bersonol

Actions and outcomes

Fe gyfeiriodd MR ei hun at Wasanaeth Awtistiaeth Integredig Bae’r Gorllewin yn Ebrill 2019 am asesiad diagnostig o awtistiaeth. Dywedodd wrth y gwasanaeth ei bod wedi cael “anawsterau difrifol” ers gadael y brifysgol. Eglurodd MR fod sefyllfaoedd cymdeithasol yn eithriadol o anodd iddi ac nad ydy hi’n gallu mynd i apwyntiadau neu gyfarfodydd ar ei phen ei hun.

 

Cafodd MR ddiagnosis o Awtistiaeth ym Mai 2019, ac aeth ar Gwrs Ôl-ddiagnostig ym Medi 2019. Drwy fynd ar y cwrs, rhoddwyd y cyfle i MR feddwl am ei hawtistiaeth a bod yn agored am ei thrafferthion. Siaradodd y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig ag MR am ei hawliau fel gweithiwr ac fel unigolyn, a daethpwyd i wybod ei bod wedi cael profiad trist gydag asesiad Taliad Annibyniaeth Bersonol, yr ystyriodd yn drawmatig gan arwain ati hi’n colli taliadau. O ganlyniad i’w hanawsterau cymdeithasol a chyfathrebu, nid oedd yn gallu egluro ei hanawsterau’n effeithiol i asesydd. Heb y taliadau hyn, roedd yn dod yn debygol y byddai’n gorfod symud yn ôl i dŷ ei rhieni, gan na fyddai’n gallu byw yn annibynnol yn ariannol mwyach.

 

Fel tîm, roedd y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig yn gallu ei chefnogi i herio’r ffordd y cafodd ei hasesu a chael asesiad arall. Roedd y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig hefyd yn gallu dangos tystiolaeth o sut mae awtistiaeth MR yn ei heffeithio o ddydd i ddydd.

 

Roedd dyfarniad Taliad Annibyniaeth Bersonol MR yn llwyddiannus, ac mae hi bellach yn gallu parhau i fyw yn annibynnol.

Feedback

Mae’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig wedi cael yr e-bost canlynol gan fam MR:

“Dim ond eisiau dweud diolch ydw i, i’r tîm a chithau am yr holl gefnogaeth rydych wedi’i rhoi i MR a’i hawliad am Daliad Annibyniaeth Bersonol. Cafodd ei dyfarnu â’r swm llawn, sy’n golygu ei bod yn gallu parhau i fyw yn annibynnol a fforddio i brynu pethau a fydd yn gwneud ei bywyd yn haws. Diolch o galon i chi am eich cymorth a’r galwadau ffôn i’r Taliad Annibyniaeth Bersonol…mae gwybod bod eich gwasanaeth yna i’n cefnogi’n rhoi tawelwch meddwl i ni ac yn sicr wedi gwneud gwahaniaeth i’n bywydau. Ni allwn ddiolch digon i chi am eich cefnogaeth a’ch arweiniad.”

Lessons Learned

Ar lefel ymarferol, mae’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig wedi dysgu mwy am y system Taliad Annibyniaeth Bersonol, sut mae’n gweithio, sut i herio penderfyniadau a sut y gall y gwasanaeth gefnogi ceisiadau. Mae hyn wedi bod yn fan cychwyn da i seilio dysgu ar y dyfodol arno.

Roedd yn cymryd amser i ddod i adnabod yr unigolyn hwn, roedd wedi colli ei hymddiriedaeth mewn gweithwyr proffesiynol ac mae cyfathrebu’n drafferth fawr iddi. Mae’r canlyniad llwyddiannus hwn wedi profi, drwy ddefnyddio gwybodaeth a phrofiad y tîm o ran awtistiaeth, y gallant gael ymddiriedaeth unigolion ag awtistiaeth, fel eu bod yn teimlo’n gyfforddus i siarad yn agored.

Fel tîm cymharol newydd, mae’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig wedi dysgu y gallant gydweithio’n effeithiol i rannu gwybodaeth a sgiliau. Roedd yr esiampl hon yn cynnwys cydlyniad tîm da. Cafodd MR ei hasesu gan y Therapydd Galwedigaethol a’r Therapydd Iaith a Lleferydd, ac yna fe aeth ar Gwrs Ôl-ddiagnostig, wedi’i hwyluso gan yr Ymarferydd Awtistiaeth
Arbenigol a’r Gweithiwr Cefnogi Lles. Tra bod y Gweithiwr Cefnogi Lles wedi herio penderfyniad y Taliad Annibyniaeth Bersonol, fe wnaeth yr Ymarferydd Awtistiaeth ysgrifennu llythyr ategol a gafodd ei gadarnhau a’i gefnogi gan y Therapydd Iaith a Lleferydd yn ei gallu fel diagnostegydd. Roedd yn ymdrech tîm go iawn, ac mae’r tîm yn falch iawn gyda’r canlyniad llwyddiannus.

Information

n/a
n/a
n/a
Categories