Roedd y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig wedi darparu cefnogaeth i F, rhiant merch awtistig. Roeddem wedi gweithio gydag F i ddarparu strategaethau ac adnoddau i’w helpu i ddeall diagnosis diweddar ei merch a darparu cefnogaeth gyda meysydd eraill hefyd. Roedd F yn ei chael hi’n anodd iawn gan nad oedd unrhyw apwyntiad dilyniant trwyadl yn dilyn diagnosis ei merch.
Roedd y Gwasanaetha Awtistiaeth Integredig wedi gweithio ar strategaethau i helpu F i reoli pryder a phatrwm cysgu ei merch. Roeddent hefyd yn cefnogi F gyda datblygiad arferion ei merch. Roeddent hefyd yn darparu cefnogaeth rhiant i F. Mae F nawr yn cysylltu â gwasanaeth cefnogi rhieni, yn mynychu cyrsiau rheolaidd ac yn gweithredu strategaethau ac adnoddau Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig yn ei bywyd bob dydd. Mae’r adnoddau hyn yn cynnwys graddfeydd graddfa emosiwn, cynllunio gweithgaredd, cardiau cyfathrebu a chanllawiau gwybodaeth Awtistiaeth. Mae gan y rhiant hefyd y dewis nawr i gadw mewn cysylltiad gyda’r Gwasanaeth Awtistiaeth integredig i ddatblygu strategaethau a chael mynediad i gefnogaeth bellach gan wasanaethau ychwanegol.