Cefnogi rhiant i ddeall diagnosis eu plentyn yn well

Actions and outcomes

Roedd y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig wedi darparu cefnogaeth i F, rhiant merch awtistig. Roeddem wedi gweithio gydag F i ddarparu strategaethau ac adnoddau i’w helpu i ddeall diagnosis diweddar ei merch a darparu cefnogaeth gyda meysydd eraill hefyd.  Roedd F yn ei chael hi’n anodd iawn gan nad oedd unrhyw apwyntiad dilyniant trwyadl yn dilyn diagnosis ei merch.

 

Roedd y Gwasanaetha Awtistiaeth Integredig wedi gweithio ar strategaethau i helpu F i reoli pryder a phatrwm cysgu ei merch. Roeddent hefyd yn cefnogi F gyda datblygiad arferion ei merch. Roeddent hefyd yn darparu cefnogaeth rhiant i F. Mae F nawr yn cysylltu â gwasanaeth cefnogi rhieni, yn mynychu cyrsiau rheolaidd ac yn gweithredu strategaethau ac adnoddau Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig yn ei bywyd bob dydd.  Mae’r adnoddau hyn yn cynnwys graddfeydd graddfa emosiwn, cynllunio gweithgaredd, cardiau cyfathrebu a chanllawiau gwybodaeth Awtistiaeth. Mae gan y rhiant  hefyd y dewis nawr i gadw mewn cysylltiad gyda’r Gwasanaeth Awtistiaeth integredig i ddatblygu strategaethau a chael mynediad i gefnogaeth bellach gan wasanaethau ychwanegol.

Feedback

“Ers diagnosis fy merch ym mis Tachwedd y llynedd rydych yr unig berson/sefydliad sydd wedi eistedd i lawr a siarad gyda mi am awtistiaeth a darparu cymaint o adnoddau dysgu gwahanol a phwyntiau cyswllt eraill.”

Lessons Learned

Mae ein gwaith gydag F wedi dangos budd y gwaith gyda rhieni i’w helpu i ddeall diagnosis eu plentyn yn well. Roedd yn amlygu budd mynediad i gyrsiau priodol a’r rhwydweithiau cefnogi y gellir eu creu.

Un o’r prif bwyntiau dysgu oedd pwysigrwydd cynnal cyfathrebu a thrafodaeth agored gyda’r rhieni. Mae hyn yn gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael mwy o gefnogaeth a hyder i weithredu strategaethau ac adnoddau.

Information

n/a
Local Authority:
Sir Ddinbych
n/a
Categories