Daeth CO at y gwasanaeth cynnal ar ôl cael diagnosis ychydig cyn pandemig COVID-19. Mynychodd y cwrs ôl-ddiagnosis dros y rhyngrwyd ac yn dilyn hynny cymerodd ran mewn gwaith 1:1.
Dechreuodd CO hefyd ar y Cwrs Rheoli Amser a Lles ond ni lwyddodd i gwblhau’r cwrs oherwydd ymrwymiadau gwaith newydd.
Yn dilyn Seren Ganlyniad, a gwblhawyd ar ddiwedd y Cwrs Ôl-Ddiagnosis dros y Rhyngrwyd, fe nodom nifer o gryfderau ond hefyd meysydd i’w datblygu. Bu ymarfer corff yn eithriadol o fuddiol i CO i wella lles ac iechyd y corff, yn ogystal â rhoi mewnwelediad llawer gwell iddi o’i hawtistiaeth – yn enwedig ei hanawsterau prosesu synhwyraidd a’r anghenion sy’n tarddu o hynny.
Nodwyd bod cymorth i reoli a chydbwyso amser a gweithgareddau yn faes i’w ddatblygu. Er na lwyddodd i gwblhau’r cwrs oherwydd ymrwymiadau gwaith newydd, nododd CO welliannau yn y maes hwn.
Oherwydd pandemig COVID-19 roedd yn anodd darparu pecyn cymorth traddodiadol i CO, ond rhoddodd hyn gyfle i’r ddwy ochr fod yn greadigol a defnyddio technoleg i ddatblygu pecyn cymorth. Trwy wneud galwadau ffôn, anfon negeseuon e-bost a gwneud galwadau fideo yn rheolaidd ni fu raid i CO adael ei chartref, a dywedodd y byddai hynny wedi gallu ei hatal rhag cael mynediad at rai gwasanaethau cynnal.