Cefnogi rhywun i ddeall eu diagnosis yn ystod y pandemig

Actions and outcomes

Daeth CO at y gwasanaeth cynnal ar ôl cael diagnosis ychydig cyn pandemig COVID-19.  Mynychodd y cwrs ôl-ddiagnosis dros y rhyngrwyd ac yn dilyn hynny cymerodd ran mewn gwaith 1:1.

 

Dechreuodd CO hefyd ar y Cwrs Rheoli Amser a Lles ond ni lwyddodd i gwblhau’r cwrs oherwydd ymrwymiadau gwaith newydd.

 

Yn dilyn Seren Ganlyniad, a gwblhawyd ar ddiwedd y Cwrs Ôl-Ddiagnosis dros y Rhyngrwyd, fe nodom nifer o gryfderau ond hefyd meysydd i’w datblygu. Bu ymarfer corff yn eithriadol o fuddiol i CO i wella lles ac iechyd y corff, yn ogystal â rhoi mewnwelediad llawer gwell iddi o’i hawtistiaeth – yn enwedig ei hanawsterau prosesu synhwyraidd a’r anghenion sy’n tarddu o hynny.

 

Nodwyd bod cymorth i reoli a chydbwyso amser a gweithgareddau yn faes i’w ddatblygu. Er na lwyddodd i gwblhau’r cwrs oherwydd ymrwymiadau gwaith newydd, nododd CO welliannau yn y maes hwn.

 

Oherwydd pandemig COVID-19 roedd yn anodd darparu pecyn cymorth traddodiadol i CO, ond rhoddodd hyn gyfle i’r ddwy ochr fod yn greadigol a defnyddio technoleg i ddatblygu pecyn cymorth. Trwy wneud galwadau ffôn, anfon negeseuon e-bost a gwneud galwadau fideo yn rheolaidd ni fu raid i CO adael ei chartref, a dywedodd y byddai hynny wedi gallu ei hatal rhag cael mynediad at rai gwasanaethau cynnal.

Feedback

“Dysgais gymaint amdanaf i fy hun, yn enwedig o’r cwrs ôl-ddiagnosis dros y rhyngrwyd. Ni wyddwn bod cymaint o fy mhroblemau yn tarddu o fy anghenion synhwyraidd. Trwy archwilio’r rhain yn eu tro rwy’n gallu ymdopi â bywyd yn llawer gwell. Byddwn i wedi hoffi gallu gwneud mwy o waith ar reoli amser gan i mi sylweddoli yn ystod y cwrs ôl-ddiagnosis dros y rhyngrwyd bod fy sgiliau swyddogaethau gweithrediaeth yn wael iawn, ond rydw i’n gwybod bod hyn yn rhywbeth y gallaf ddychwelyd ato yn y dyfodol.”

Lessons Learned

Roedd defnyddio gwasanaethau dros y rhyngrwyd yn dal i fod yn rhywbeth newydd pan ddechreuom gydweithio ond mae llwyddiant ymyraethau dros y rhyngrwyd i CO yn dangos bod angen dulliau fel hyn nawr (yn ystod COVID) ac yn y dyfodol i ddiwallu rhai anghenion.

Mae defnyddio’r cwrs ôl-ddiagnosis dros y rhyngrwyd wedi ein galluogi nid yn unig i feithrin perthynas waith, ond hefyd i allu darparu asesiad anffurfiol o ble i ddechrau cydweithio.

Information

n/a
Local Authority:
Anhysbys
n/a
Categories