Ymateb elusen Hope GB Autism Charity i’r pandemig Covid 19

Actions and outcomes

Newidiodd bywydau dros nos pan aeth Cymru dan glo ym mis Mawrth 2020. Roedd Tîm Rhan-ddeiliaid Awtistiaeth Torfaen yn poeni’n benodol am yr effaith y gallai’r cyfnod clo ei chael ar blant a phobl ifanc.

 

Cysylltodd rhieni / gofalwyr a neiniau a theidiau â ni a oedd yn poeni sut y byddent yn esbonio’r feirws i’w plant. Roeddent hefyd yn poeni am sut y byddent yn egluro i blant a phobl ifanc na allent wneud eu gweithgareddau arferol, megis treulio amser gydag anwyliaid, ymweld ag ardaloedd chwarae, teithio ymhellach na 5 milltir o’r cartref, neu fynd i’r ysgol neu’r siopau. Roedd pryderon hefyd ynghylch sut y byddent yn llenwi’r amser yn eu diwrnod heb y gweithgareddau hyn.

 

Cynhaliom ymgynghoriad trwy’r cyfryngau cymdeithasol gyda theuluoedd i ddarganfod sut y gallem eu cefnogi orau. Gwnaethom awgrymu’r posibilrwydd o ddarparu Pecynnau Gweithgaredd Synhwyraidd, gyda’r opsiwn o gynnwys gêm, deunyddiau celf a chrefft, neu gapsiwl amser / blwch cof. Y syniad y tu ôl i’r pecyn oedd cynnig rhai gweithgareddau y gallai pobl ifanc eu cyflwyno i’w trefn ddyddiol newydd. Yn ogystal, roedd y gweithgareddau a ddarparwyd yn weithgareddau synhwyraidd yn bennaf, felly gobeithio y byddent yn helpu i leihau pryder ymysg pobl ifanc ac aelodau o’u teulu.

 

Ymatebodd teuluoedd i’r ymgynghoriad cyfryngau cymdeithasol ac roeddent yn awyddus iawn i dderbyn pecyn. I ddechrau, roedd 50 ar gael trwy’r cyfryngau cymdeithasol ac roeddent i gyd wedi mynd o fewn dwy awr. Hyd yn hyn, rydym wedi darparu 130 pecyn.

 

Mesurwyd y canlyniadau i ddechrau trwy ffurflen adborth, ac aeth llawer o deuluoedd ar y cyfryngau cymdeithasol hefyd gyda sylwadau a lluniau o’u plant yn rhoi cynnig ar weithgareddau.

Feedback

Sylw gan Dderbynnydd Pecyn Synhwyraidd (rhiant / gofalwr):

“Diolch yn fawr iawn! Rwy’n siŵr bod yna lawer o bobl yn teimlo fel yr ydw i, efallai bod eraill yn cadw’r cyfan i mewn hefyd. Mae’r cyfnod clo yn anodd, hyd yn oed pan rydyn ni’n gwybod bod yn rhaid i ni ei wneud. Mae hyd yn oed yn anoddach pan mae gennych rai bach sydd ddim yn deall, sy’n dibynnu ar drefn gymaint … gall yr un newid bach yna droi eu byd i gyd wyneb i waered. Does dim byd gwaeth na gwylio’ch plentyn yn chwalu. Plentyn sy’n methu â dweud wrthych beth sy’n bod neu beth maen nhw ei eisiau neu beth maen nhw hyd yn oed yn ei ddeall sy’n digwydd. Heddiw fe wnes i grio, sawl gwaith, rydw i wedi dod yn syth yn ôl o shifft nos 12 awr a neidio’n syth yn ôl i rôl Mam! Mae diwrnodau fel y rhain yn anodd ond yn waeth byth pan fo gennych chwalfa go iawn ar eich dwylo. Diolch gymaint i Hope GB, fe wnes i grio pan dderbyniais yr alwad i ddweud bod y parsel wedi ei adael ar garreg ein drws. Mae’r 40 munud olaf wedi newid naws y tŷ hwn yn llwyr. Rydyn ni wedi crio, chwerthin, gwenu ac mae heddwch wedi’i adfer. Diolch.”

Lessons Learned

Fel yr elusen awtistiaeth ar gyfer Torfaen, mae Hope GB bob amser wedi rhoi gwerth mawr ar wrando ar blant, pobl ifanc ac oedolion awtistig, eu rhieni / gofalwyr, a’u teuluoedd. Yn ystod y cyfnod clo, ehangodd gwasanaeth yr elusen wrth i ni wrando ar deuluoedd nad oeddent erioed wedi cysylltu â ni o’r blaen a chefnogi teuluoedd. Rydym hefyd wedi partneru â sawl sefydliad trydydd sector newydd. Mae hyn wedi ein helpu i ddeall bod anghenion pobl awtistig a’r bobl sy’n gofalu amdanynt yn amrywiol ac efallai y bydd angen cefnogaeth bwrpasol ar bob un.

Mae cyfnod clo hefyd wedi tynnu sylw at yr heriau ychwanegol y mae teuluoedd un rhiant yn eu hwynebu. Clywsom lawer o adroddiadau ynghylch y frwydr i brynu bwydydd gyda rhieni sengl yn dioddef negyddiaeth a beirniadaeth am fynd â’u plentyn i siopau bwyd, er na allant eu gadael ar eu pennau eu hunain.

Gall rhai pobl awtistig fod yn llythrennol yn eu dealltwriaeth. Mae teuluoedd wedi nodi bod eu plant wedi cymryd y neges “aros adref, aros yn ddiogel” yn llythrennol ac nad ydyn nhw eisiau gadael eu cartrefi o gwbl, hyd yn oed i’w gardd.

Er mwyn cefnogi pobl ifanc awtistig a’u teuluoedd, rydym yn addasu ein gwasanaeth clwb ieuenctid i gynnwys gwasanaeth allgymorth fel y gallwn gefnogi 25 o bobl ifanc ychwanegol yn y gymuned i fagu eu hyder i ddychwelyd i’r “normal newydd”. Cefnogir y datblygiad hwn gan arian ychwanegol a dderbyniodd y tîm.

Information

n/a
Local Authority:
Tor-faen
n/a
Categories