Newidiodd bywydau dros nos pan aeth Cymru dan glo ym mis Mawrth 2020. Roedd Tîm Rhan-ddeiliaid Awtistiaeth Torfaen yn poeni’n benodol am yr effaith y gallai’r cyfnod clo ei chael ar blant a phobl ifanc.
Cysylltodd rhieni / gofalwyr a neiniau a theidiau â ni a oedd yn poeni sut y byddent yn esbonio’r feirws i’w plant. Roeddent hefyd yn poeni am sut y byddent yn egluro i blant a phobl ifanc na allent wneud eu gweithgareddau arferol, megis treulio amser gydag anwyliaid, ymweld ag ardaloedd chwarae, teithio ymhellach na 5 milltir o’r cartref, neu fynd i’r ysgol neu’r siopau. Roedd pryderon hefyd ynghylch sut y byddent yn llenwi’r amser yn eu diwrnod heb y gweithgareddau hyn.
Cynhaliom ymgynghoriad trwy’r cyfryngau cymdeithasol gyda theuluoedd i ddarganfod sut y gallem eu cefnogi orau. Gwnaethom awgrymu’r posibilrwydd o ddarparu Pecynnau Gweithgaredd Synhwyraidd, gyda’r opsiwn o gynnwys gêm, deunyddiau celf a chrefft, neu gapsiwl amser / blwch cof. Y syniad y tu ôl i’r pecyn oedd cynnig rhai gweithgareddau y gallai pobl ifanc eu cyflwyno i’w trefn ddyddiol newydd. Yn ogystal, roedd y gweithgareddau a ddarparwyd yn weithgareddau synhwyraidd yn bennaf, felly gobeithio y byddent yn helpu i leihau pryder ymysg pobl ifanc ac aelodau o’u teulu.
Ymatebodd teuluoedd i’r ymgynghoriad cyfryngau cymdeithasol ac roeddent yn awyddus iawn i dderbyn pecyn. I ddechrau, roedd 50 ar gael trwy’r cyfryngau cymdeithasol ac roeddent i gyd wedi mynd o fewn dwy awr. Hyd yn hyn, rydym wedi darparu 130 pecyn.
Mesurwyd y canlyniadau i ddechrau trwy ffurflen adborth, ac aeth llawer o deuluoedd ar y cyfryngau cymdeithasol hefyd gyda sylwadau a lluniau o’u plant yn rhoi cynnig ar weithgareddau.