Yn ystod Mis Ymwybyddiaeth Tourette, mae Tourettes Action yn cynnal ymgyrch o’r enw #TourettesHurts sydd â’r nod o dynnu sylw at yr effaith y gall Tourette’s ei chael ar y rhai sydd â’r cyflwr, a’r rhai o’u cwmpas, a chael gwared ar stigmateiddio Tourette’s trwy addysgu a hysbysebu.
Bydd yr ymgyrch yn dangos i’r cyhoedd sut olwg sydd ar realiti Tourette, gan chwalu rhai o’r mythau sy’n ei amgylchynu.
Mae Tourettes Action wedi creu cyfres o bosteri (uchod) i’w defnyddio yn ystod mis ymwybyddiaeth, ac yn eich annog i rannu ac arddangos y rhain mewn lleoliadau amrywiol, er enghraifft::
- Meddygfa
- Gweithle
- Canolfan gymunedol leol
- Ysgol
- Coleg
- Hysbysfwrdd y fferyllfa
- CAMHS lleol
- Bwrdd arddangos ysbyty
- Canolfan Cyngor ar Bopeth