Gwybodaeth am gynllun gwreiddiol Weli Di Fi?

Rydym yn gobeithio hyrwyddo dealltwriaeth am awtistiaeth a’r gallu i’w dderbyn, ymysg cymunedau yng Nghymru er mwyn gwella mynediad at gyfleusterau a gostwng y stigma y gall nifer o unigolion awtistig ei brofi, ynghyd â’u rhieni a’u cynhalwyr.

Fel cyflwyniad i addasu rhyngweithio ar gyfer unigolion awtistig, rydym wedi creu amrywiaeth o bosteri sy’n cynnig canllawiau ar gyfer darpariaethau cymunedol megis siopau’r stryd fawr, banciau, archfarchnadoedd, siopau trin gwallt, sinemâu, ac ati. Gellir gweld y rhain ar waelod y dudalen we hon.

Rydym hefyd wedi creu taflenni i Feddygon Teulu a Deintyddion.  Mae cyfres o adnoddau i helpu unigolion i roi gwybod i eraill fod awtistiaeth arnynt (petaent yn dymuno gwneud hynny). Mae’r rhain yn cynnwys breichled, cerdyn, llun sgrîn ffôn clyfar a sticer i ffenestr car.

Rydym hefyd wedi datblygu fideo i hyrwyddo’r cynllun, ac wedi derbyn cefnogaeth gan chwaraewyr tîm rygbi Cymru a Chymdeithas Pêl-droed Cymru. Hefyd, mae Gethin Jones, ein llysgennad Awtistiaeth, wedi’n cefnogi i greu hyn – ochr yn ochr â nifer o adnoddau eraill. Rydym mor ddiolchgar ag erioed iddo am ei gefnogaeth wrth gyflwyno ein prif negeseuon.

Byddwn yn gweithio gydag ardaloedd lleol i gyflwyno’r cynllun, gan y bydd hi’n bwysig i sicrhau fod pawb yn cymryd rhan i gael yr effaith sydd ei angen ar gyfer unigolion awtistig.

Rydym angen help i wneud y cynllun hwn yn effeithiol. Rhannwch y fideo hwn, dilynwch hwn ar Facebook/Trydar am y wybodaeth ddiweddaraf. Os ydych yn gallu gwirfoddoli a’n helpu, rhowch wybod i ni a byddwn yn cysylltu â chi pan fyddwn yn cyflwyno’r cynllun yn eich ardal.

Cyn creu’r cynllun, aethom ati i ymgynghori gyda staff niferus o fewn cyfleusterau adwerthu, hamdden a chymdeithasol gan gasglu barn 365 o unigolion awtistig / rhieni a chynhalwyr trwy arolwg.

Ein nod gyda’r cynllun hwn yw gwneud cymunedau yn ymwybodol o awtistiaeth a’r anawsterau y mae unigolion yn eu hwynebu. Rydym wedi ymgynghori gyda nifer o staff sy’n gweithio mewn siopau ac o fewn darpariaeth gymunedol. Roeddynt wedi dweud wrthym y byddai posteri gyda gwybodaeth a chanllawiau yn fwyaf defnyddiol iddynt fel canllaw hawdd i gyfeirio atynt. Nid yw’r posteri hyn yn disodli’r angen am hyfforddiant mwy cynhwysfawr, ond byddant yn helpu staff i ddeall y bydd gwneud pethau’n wahanol yn gallu helpu unigolion awtistig i gael mynediad i’w darpariaeth.

Mae gennym ystod o wybodaeth fanylach am awtistiaeth ar y wefan hon, ac mae nifer o ddarparwyr hyfforddiant ar gael am hyfforddiant manylach petai pobl yn dymuno comisiynu hyn.

Yr unigolyn / rhieni / cynhalwyr sydd i benderfynu a ydynt yn dymuno rhoi gwybod i eraill fod ganddynt awtistiaeth. Mae nifer o bobl yn dweud wrthym ni y byddent yn hoffi rhoi gwybod i eraill ac felly rydym wedi creu ffordd o wneud hyn. Mae staff o fewn cyfleusterau adwerthu a hamdden yn dweud wrthym ni eu bod nhw’n ei gweld hi’n anodd gwybod pan fo awtistiaeth ar rywun, ac oherwydd hynny i addasu’r ffordd y maent yn rhyngweithio, oni bai eu bod yn cael gwybod, gan fod awtistiaeth yn anabledd cudd.

Nid ydym yn gofyn i bobl wisgo’r freichled, ond yn eu darparu i’r sawl sydd eisiau rhoi gwybod i eraill fod ganddynt awtistiaeth yn y ffordd hon. Mae nifer o unigolion wedi ein cynghori eu bod yn ei gweld hi’n anodd cyfathrebu hyn i eraill.

O’n harolwg, dim ond 11% o oedolion a 13% o rieni a chynhalwyr ddywedodd na fyddent yn defnyddio’r freichled. I’r sawl nad ydynt yn dymuno gwisgo’r freichled, mae yna gerdyn neu lun sgrin ffôn clyfar. Os nad yw unigolyn eisiau i eraill wybod fod awtistiaeth arnynt, ni ddylent ddefnyddio’r adnoddau. Mae ein taflenni gwybodaeth hefyd yn pwysleisio’r neges hon.

Rydym wedi ceisio gwneud y freichled / cerdyn / llun sgrin ffôn clyfar yn gynnil ond eto’n nodedig. Rydym wrth gwrs yn gobeithio y bydd pawb yn adnabod yr hyn y maent yn ei olygu a bod unigolion yn dod yn ymwybodol o oblygiadau hyn trwy ein taflenni gwybodaeth.

Byddwn yn dechrau cyflwyno’r cynllun yn ystod y misoedd sydd i ddod, felly dilynwch ni ar Facebook / Trydar ac edrych ar ein gwefan am wybodaeth. Neu gallwch anfon e-bost atom yn ASDinfo@WLGA.gov.uk os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud eich tref yn ymwybodol o awtistiaeth.

Cliciwch ar y ddelwedd isod i chwarae’r fideo ‘Weli Di Fi?’

Cliciwch y botwm ‘CC’ i weld y ffilm gydag isdeitlau Cymraeg

Cynllun Ardystio Ymwybyddiaeth Awtistiaeth

I gael mynediad i’r cynllun, cliciwch ar y ddolen ganlynol.

 

Chwilio am lawrlwythiadau?

Cliciwch y botwm isod i weld y lawrlwythiadau sydd ar gael ar y dudalen we hon.


Lawrlwythiadau

Gwybodaeth i Oedolion Awtistig

Gwybodaeth i Rieni a Gofalwyr gyda phlentyn awtistig

Allwch Chi Weld Fi? poster

Llythyr gwybodaeth ar gyfer sefydliadau

Gwybodaeth ASD gyffredinol ar gyfer pob sefydliad

Banciau, swyddfeydd post ac undebau credyd

Caffis a bwytai

Trinwyr gwallt

Stryd Fawr

Gweithgareddau chwaraeon a ffitrwydd

Archfarchnadoedd

Trafnidiaeth gyhoeddus

Clybiau ieuenctid a chymdeithasol

Awtistiaeth: Canllaw i feddygon teulu

Awtistiaeth: Canllaw i ddeintyddion