Mae’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol bellach wedi ail-lansio’n swyddogol fel y Tîm Niwrowahaniaeth Cenedlaethol!
Yn ein Digwyddiad Ail-lansio, dangosodd ein siaradwyr gwadd a’n gwesteion o bob cwr o Gymru yr hyn sydd wedi’i gyflawni ym maes #awtistiaeth, a’r camau nesaf i ehangu’r cwmpas i gynnwys #niwrowahaniaeth, gan gynnwys #ADHD a chyflyrau #Tourettes a Thiciau.
Bu i’n digwyddiad cwbl #niwroamrywiol amlygu cydweithrediad parhaus y tîm gyda phobl, gweithwyr proffesiynol a sefydliadau trydydd sector #niwrowahanol.
Mae’r tîm yn parhau i weithio tuag at wella bywydau pobl #niwrowahanol a’u teuluoedd
Parhewch i lawr y dudalen hon i weld y deunyddiau o’r digwyddiad, gan gynnwys fideos, delweddau, cyflwyniadau gan siaradwyr, gwybodaeth hygyrchedd, agendâu a mwy.
Sylwch y bydd y dudalen hon yn cael ei diweddaru’n fuan gyda chynnwys pellach o’r digwyddiad wrth iddynt ddod ar gael.
Hoffai’r Tîm Niwrowahaniaeth Cenedlaethol ddiolch i’r holl siaradwyr a’r rhai a fynychodd. Edrychwn ymlaen at barhau â’n gwaith cydweithredol yn y dyfodol. Os hoffech chi ysgrifennu eich atgofion o’r Daith ND a’ch gobeithion ar gyfer dyfodol ND yng Nghymru, gellir lawrlwytho’r cerdyn post o’r digwyddiad isod:
Fideos
Oriel Ddelweddau
Cliciwch ar unrhyw un o’r lluniau isod i’w gweld mewn maint llawn: