Beth yw’r adnoddau hyn?

Cyfres o adnoddau un dudalen, yn seiliedig ar bynciau, sy’n cyfuno cwestiynau a dolenni i adnoddau pellach ar wefan Niwrowahaniaeth Cymru.

I bwy ydyn nhw?

Unrhyw un sy’n gweithio gyda theuluoedd a allai fod angen gwybodaeth ac adnoddau arnynt am niwrowahaniaeth. Gweithwyr proffesiynol sy’n delio â theuluoedd ac sy’n gweithio gyda rhieni/gofalwyr a theuluoedd, naill ai ar sail un i un neu mewn sesiynau grŵp (e.e. prosiectau teuluoedd yn gyntaf, dechrau’n deg, canolfannau teulu, timau cymorth i deuluoedd, gweithwyr cymorth, timau cymorth cynnar).

Sut ydw i’n eu defnyddio?

Gellir eu defnyddio gydag unigolion yn ystod ymweliadau cartref neu waith uniongyrchol neu fel ffordd o arwain grwpiau rhieni/gofalwyr sy’n cefnogi cyfoedion (er enghraifft grwpiau cymorth lleol neu grwpiau rhianta). Defnyddiwch y pwyntiau trafod i arwain y sgwrs, ac yna cliciwch ar y delweddau, a fydd yn mynd â chi i’r adnoddau perthnasol ar y wefan.

Rhai syniadau

  • Gwyliwch weminar fel grŵp, gan ei oedi ar adegau rheolaidd i drafod y pynciau a godwyd fel grŵp
  • Cynnal cyfres o weithdai seiliedig ar bynciau (e.e. Sesiwn 1 – Cwsg, Sesiwn 2 – Synhwyraidd, Sesiwn 3 – Mynd i’r toiled, ac ati) gan ddefnyddio’r taflenni fel canllawiau
  • Ewch drwy daflen bwnc wrth weithio gyda rhiant un-i-un, gan ddefnyddio’r pwyntiau trafod i arwain y sgwrs ac amlygu adnoddau unigol


Os oes gennych unrhyw awgrymiadau ar gyfer taflenni sesiwn pellach, defnyddiwch y ffurflen adborth ar waelod y dudalen.

Modiwlau eDdysgu

I gael mynediad at y modiwlau eDdysgu, cliciwch ar y ddolen ganlynol.

Os ydych yn gweithio i Awdurdod Lleol neu’r Bwrdd Iechyd, dylai’r modiwlau hyn fod ar gael ar eich platfform dysgu a byddem yn eich cynghori i’w cwblhau ar eich platfform dysgu eich hun.

Lawrlwythiadau

Cynllun Sesiwn - Ysgol

Cynllun Sesiwn - Synhwyraidd

Cynllun Sesiwn - Cwsg

Cynllun Sesiwn - Ymddygiad Gofidus

Cynllun Sesiwn - Bwyd

Cynllun Sesiwn - Defynddio’r Toiled

Adborth Adnoddau Niwrowahaniaeth Cymru

Mae’r broses o ddiweddaru’r adnoddau ar wefan Niwrowahaniaeth Cymru yn mynd rhagddi, ac rydym bob amser yn awyddus i ofyn am adborth pobl er mwyn gwneud hyn. Defnyddiwch y ffurflen hon i roi sylwadau ar unrhyw un o’r adnoddau ar y wefan.